Bydd y grŵp jazz Burum yn cynnig blas pellach o’u halbwm newydd wrth ryddhau sengl ar 24 Mehefin.
‘Pibddawns Dowlais’ ydy enw’r sengl newydd sydd allan ar label Recordiau Bopa ac mae’n dilyn yn dynn ar sodlau eu sengl ddiwethaf, ‘Cariad Cywir’ a ryddhawyd ar ddiwedd mis Mai.
Dyma’r rhagflas diweddaraf o bedwerydd albwm y grwp, ‘Eneidiau’, fydd allan ar 15 Gorffennaf eleni, ac sy’n cael ei weld fel cyfraniad arall pwysig i jazz o Gymru a sydd â naws digamsyniol Gymreig.
‘Pibddawns Dowlais’ sy’n cychwyn ochr B yr albwm gyda sain hollol wahanol diolch i berfformiad wedi’i ysbrydoli gan Miles in the Sky o ‘Pibddawns Dowlais’ (Dowlais Hornpipe) – nid perfformiad arferol o’r bibell gorn ydy hwn!
Bydd yr albwm ‘Eneidiau’ yn cael ei ryddhau’n ddigidol ar y llwyfannau arferol, ac ar ffurf record finyl.
Mae Burum yn parhau â’u harfer o gyflwyno trefniannau jazz newydd o hen alawon gwerin Cymraeg. Arweinir y grŵp gan y trwmpedwr Tomos Williams (Khamira, Cwmwl Tystion) sydd hefyd yn adnabyddus fel cyflwynydd cyfresi jazz BBC Radio Cymru a’i frawd Daniel Williams ar y tenor sacs.
‘Eneidiau’ fydd yr albwm cyntaf i gynnwys aelod diweddara’r band – Patrick Rimes (Calan, Vrï) ar y sach-bîb a’r chwibanogl, sydd yn gosod sŵn y band tu allan i fyd y chwechawd jazz arferol, ac sy’n ategu’r naws gwerinol.
Mae Dave Jones (piano), Aidan Thorne (bas) a Mark O’Connor (drymiau) wedi bod yn gonglfeinni Burum a’r sîn jazz yn Nghymru ers blynyddoedd bellach, ac yn gerddorion heb eu hail.
Mae Burum wedi bod yn bodoli ers dros 10 mlynedd erbyn hyn, ac mae’r cyfeillgarwch a’r empathi cerddorol sydd wedi tyfu dros y cyfnod yma’n amlwg i’w glywed yn y gerddoriaeth. Maent wedi cael y cyfle i deithio India ddwywaith, wedi chwarae yng Nghŵyl Geltaidd Lorient, Llydaw, amryw o weithiau ac wedi chwarae yng ngwyliau Jazz Aberhonddu a Teignmouth. Dyma bedwarydd albym y band yn dilyn (Alawon, 2007, Caniadau, 2012 a Llef 2016).