Mae’r canwr-gyfansoddwr o’r Gogledd, Tom Macaulay, wedi rhyddhau ei sengl Gymraeg newydd ers dydd Gwener diwethaf, 16 Medi.
‘Yr Unig Un’ ydy enw’r trac newydd gan y cerddor a ddaw’n wreiddiol o Abersoch, ond sydd bellach wedi ymgartrefu ar Ynys Môn.
Mae Macaulay yn gerddor dwyieithog ond wedi canolbwyntio’n bennaf ar ryddhau cerddoriaeth yn y Saesneg yn y gorffennol. Er hynny, mae ‘Yr Unig Un’ yn ddilyniant i’w drac Cymraeg poblogaidd ‘Mwg Mawr Gwyn’ a ryddhawyd yn wreiddiol yn 2020.
Daeth y sengl honno i amlygrwydd eto’n ddiweddarach wrth i’r cynhyrchydd gweithgar, Shamoniks, fynd ati i ryddhau ail-gymysgiad o’r trac ym mis Mehefin 2021.
Mae Tom Macaulay wedi cael ei ddisgrifio fel “Llais Mawr” gan Bethan Elfyn ar BBC Radio Wales yn ogystal â derbyn canmoliaeth gan DJ’s radio eraill fel Huw Stephens a’r DJ radio lleol Sarah Wynn Griffiths a ddywedodd ei fod yn “hynod dalentog ac llais mor unigryw”.
Mae Tom mynd ati i gyd-weithio unwaith eto gyda Shamoniks ar gyfer y sengl ddiweddaraf yma.
Ysgrifennwyd y gân yn ddiweddar gan Tom ac mae’n adlewyrchiad o daith bywyd diweddar.
Daw Tom o Abersoch ym Mhen Llyn ac mae ei ganeuon yn amrywio o ran arddull o fewn y genres amgen a blues gyda chaneuon Cymraeg bellach hefyd yn cael eu hychwanegu at ei restr o ganeuon.
Mae ‘Yr Unig Un’ allan ar y label sy’n cael ei reoli gan Shamoniks, sef UDISHIDO.