Mae artist newydd o’r gogledd, Alis Glyn, wedi rhyddhau ei sengl gyntaf ers dydd Gwener diwethaf, 2 Rhagfyr.
‘Golau’ ydy enw’r sengl newydd gan Alis ac mae allan ar label Recordiau Aran.
Mae Alis yn 15 oed ac fe ddaw o Gaernarfon. Mae’n ddisgybl yn Ysgol Syr Hugh Owen ar hyn o bryd ac wrth ei bodd yn cyfansoddi a pherfformio ei chaneuon.
Yn ôl Recordiau Aran, yn ystod 2022 mae wedi mwynhau perfformio yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sesiwn Fawr Dolgellau, Eisteddfod Genedlaethol Tregaron a Ffair Nadolig Glynllifon.
Mae hefyd wedi elwa yn fawr o fod ar ddau benwythnos Merched yn Gwneud Miwsig dan ofal Urdd Gobaith Cymru a Chlwb Ifor Bach yng Ngwersyll Glan Llyn yn ystod 2022 a chael cyfarfod a chyd-gyfansoddi gyda cherddorion a pherfformwyr eraill.
Os ydach chi’n meddwl bod ei henw’n gyfarwydd, ma’n bosib y byddwch chi’n cofio iddi ysgrifennu darn arbennig am weithdy Merched yn Gwneud Miwsig fis Chwefror ar gyfer gwefan Y Selar.