Rhyddhau sengl gyntaf Tara Bandito

Mae Tara Bandito wedi rhyddhau ei sengl newydd dan yr enw ‘Blerr’ heddiw,14 Ionawr. 

Mae Tara yn enw, wyneb a llais cyfarwydd iawn yng Nghymru ers sawl blwyddyn a hithau wedi bod yn perfformio ers yr oedd hi’n ddim ond 5 mlwydd oed, yn bennaf dan yr enw Tara Bethan. 

Er hynny, mae’r sengl newydd yn ymddangos ganddi dan yr enw Tara Bandito, a hynny’n arwyddocaol ac yn dynodi dechreuad cerddorol newydd i’r artist amryddawn. 

Ffeindio cartref cerddorol

Yn ferch i’r wreslwr enwog El Bandito, disgynnodd Tara i mewn i’r byd adloniant, heb gyfle i feddwl yn union beth oedd y cyfan yn ei feddwl ac i ba reswm mae ‘perfformio’n’ rhan mor annatod ohoni.

Cafodd y cwestiwn dwys hwnnw mo’i ofyn nes 2009 gyda cholled ei thad, ei harwr a’i hysbrydoliaeth. Arweiniodd hyn at daith symbolaidd a llythrennol i ddarganfod ei hun. 

Mewn cyfnod o deithio’r byd, sy’n swnio fel ffilm indie ddramatig wrth iddi adrodd yr hanes, aeth Tara tua’r dwyrain ar ei phen ei hun – cyrraedd uchafion Kilimanjaro, yn ogystal â pherfeddion Bangkok, profi prydferthwch Vietnam, anferthwch yr Himalayas a ffeindio’i chartref cerddorol ysbrydol yn India yn ystod mis o hyfforddi fel athro Yoga.

Pan gyrhaeddodd adref, parhaodd perfformio i fod yn ran fawr o’i bywyd, wrth iddi ymuno gyda sioe fyw anhygoel ‘Charlotte Church’s Late Night Pop Dungeon’, ac er iddi sylweddoli wrth wneud hynny fod canu’n ffordd hollbwysig iddi fynegi ei hun, cymerodd un troad ychwanegol o ffawd cyn i Tara sylweddoli mai ysgrifennu cerddoriaeth wreiddiol oedd y ffordd iddi wir ddod i ddeall ei hun. 

Fel canlyniad i fyw dan y clo, trodd Tara tuag at gyd-gynhyrchu a chyflwyno’r podlediad llwyddiannus ‘Dewr’ (un o enillwyr y ‘British Podcast Awards’), lle bu’n sgwrsio gyda phobl adnabyddus o Gymru am hynt a helynt eu bywydau. 

Wedi iddi siarad yn y gorffennol am eu brwydrau gyda iechyd meddwl, roedd recordio’r sgyrsiau’n brofiad addysgiadol, wrth iddi sylweddoli bod allbwn creadigol yn un o’r arfau mwyaf pwerus o gymorth pan mae’n dod i daclo problemau iechyd meddwl. 

 

Cychwynnodd Tara ysgrifennu cerddi mewn sesiynau hwyrnos o farddoni ac esblygodd rhai o’r geiriau yma i ddod yn ganeuon cyntaf i Tara Bandito. 

Ar ôl creu demôs o safon a’u gyrru i Recordiau Côsh Records, daeth yn artist newydd i’r label a chafodd tair sengl eu recordio gan y cynhyrchydd Rich James Roberts.

Bydd rhain yn cael eu rhyddhau rhwng Ionawr a ddiwedd Mawrth, gyda ‘Blerr’ yn arwain y ffordd.

Dyma fideo ardderchog gan Lŵp ar gyfer y trac: