Rhyddhau sengl Lastigband

Mae Lastigband, sef prosiect unigol Gethin Davies gynt o’r band Sen Segur, wedi rhyddhau sengl newydd sy’n flas o’r hyn sydd i ddod ar albwm newydd y prosiect.

‘Moon Door’ ydy enw’r trac newydd sydd wedi’i ryddhau ar safle Bandcap Lastigband ers dydd Gwener diwethaf, 18 Chwefror.

Mae’r sengl yn damaid i aros pryd nes rhyddhau albwm llawn cyntaf Lastigband, ‘Micro Vector’, ar 4 Mawrth.