Rhyddhau Sengl Newydd Bardd

Mae sengl ddiweddaraf y prosiect Bardd allan ers dydd Gwener diwethaf, 14 Ionawr. 

Bardd ydy enw partneriaeth y rapiwr, MC a bîtbocsiwr amryddawn, Mr Phormula; y bardd a drymiwr, Martin Daws; a’r aml-offerynnwr, Henry Horrell. 

Rhyngddynt, mae gan aelodau Bardd ystod eang o wobrau ac anrhydeddau rhyngwladol gan gynnwys ‘Pencampwr Beatbox Cymru’ ddwywaith, a Bardd Pobl Ifanc Cymru. Maent hefyd yn driawd sy’n cyflwyno cerddoriaeth hip-hop unigryw ac organig. 

Enw sengl newydd Bardd ydy ‘Process’ ac mae’n cael ei ryddhau ar label Mr Phormula Records. Yn ôl y band mae’r trac yn cyfuno jazz, hip hop a sain arbennig tirwedd Cymru sy’n gartref i’r triawd.