Mae’r grŵp Worldcub yn ôl gyda sengl newydd o’r enw ‘Look Through The Keyhole’ sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 21 Hydref.
Mae’r trac yn rhan o brosiect cysyniadol o’r enw ‘Back To The Beginning’, casgliad o draciau sydd erbyn heddiw wedi datblygu i fod yn albwm o’r un enw ac EP cysylltiedig o’r enw ‘BTTB Cyfres 1’.
Mae ‘Look Through The Keyhole’ yn wibdaith odidog, swynol, wedi’i dylanwadu gan gerddoriaeth ‘west coast’ a syrff-roc ac mae’n cael ei chodi o’u EP sydd ar fin cael ei ryddhau.
Worlcub ydy band y brodyr Cynyr a Dion Hamer, ynghyd ag Osian Land (sydd hefyd yn aelod o’r ddeuawd Dienw) ar y drymiau a Dion Wyn Jones (Alffa) ar y gitâr fas, y ddau wedi ymuno’n fwy diweddar. Dechreuodd y band eu bywyd dan yr enw CaStLeS cyn newid enw i Worldcub yn 2018.
Camu i’r gorffennol
Mae’r sengl ddiweddaraf yn ddilyniant i’r trac ‘Torri’ a ryddhawyd ym mis Gorffennaf eleni.
“Mae ‘Look Through The Keyhole’ amdan drws hud i ryw ‘time warp’ lle gallwch chi gamu i fywyd y gorffennol” eglura Dion Hamer am y sengl newydd.
“Mae’r cyfan yn ymwneud ag ailymweliadau, ‘dani’n ei wneud trwy’r amser, rydyn ni’n ailymweld â’n atgofion, hobïau, hen lefydd o’r gorffennol, hen gasgliad Elvis, Pizza neithiwr, tydi o byth yr un profiad. Mae’r gân yn ei hun hyd yn oed yn ail-ymweliad, cafodd y fersiwn gyntaf o’r trac ei sgwennu 10 mlynedd yn ôl.
Bydd record fer Worldcub, ‘BTTB Cyfres 1 EP’, yn cael ei ryddhau ar y 4 Tachwedd drwy Recordiau Ratl Records a gallwn ddisgwyl i’w halbwm ddilyn yn fuan yn 2023.
Mae’r grŵp wedi’u dylanwad arnynt gan McCartney’r 70au/80au a ‘Fantastic Man’, William Onyeabor. Maent yn cynhyrchu deunydd o’u stiwdio cartref ar fryniau Eryri, gan gyfuno elfennau o gerddoriaeth gitâr syrffio, kraut-roc a harmonïau lleisiol hypnotig seic.
Wedi cyfnod cymharol dawel, mae’n ymddangos fod Worldcub yn ôl gyda’r senglau diweddar a chynnyrch mwy swmpus ar y ffordd.