Mae’r Super Furry Animals wedi rhyddhau’r sengl gyntaf a recordiwyd erioed ganddynt er mwyn cefnogi ymgyrch ‘Save the Severn’.
Recordiwyd y gân ym 1993 gyda phrif ganwr gwreiddiol y grŵp, yr actor Rhys Ifans, cyn iddo adael er mwyn canolbwyntio ar ei yrfa lwyddiannus ym myd y ffilmiau.
Mae’r gân, sef ‘Of No Fixed Identity’, wedi bod yn eistedd archif y band ers hynny. Nawr, bron i 30 blynedd yn ddiweddarach mae’r trac wedi’i atgyfodi ac ar gael i’w brynu ar safle Bandcamp Super Furry Animals gydag elw gwerthiant yn cyfrannu at yr ymgyrch i warchod aber yr Hafran – ymgyrch sy’n cael ei arwain gan aelod y grŵp, a’r ymgyrchydd amlgylcheddol, Cian Ciaran.
Dim ond am gyfnod byr mae’r trac ar gael i’w brynu ar Bandcamp, ac mae awgrym bod ambell drysor cudd arall yn cuddio yn archif y band allai ail-ymddangos yn y dyfodol.