Rhyddhau ‘Woman’ gan Tara Bandito

Mae Tara Bandito wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 11 Tachwedd. 

‘Woman’ ydy enw’r trac diweddaraf gan Tara a dyma’r bedwaredd sengl iddi ryddhau ar label Recordiau Côsh.

Wrth ryddhau’r sengl newydd, manteisiodd Côsh ar y cyfle i rannu’r newyddion bod albwm ar y gweill gan yr artist hefyd, ac y gallwn ddisgwyl gweld hwn yn glanio’n fuan yn y flwyddyn newydd.

 Mae ‘Woman’ yn ddilyniant i’r gyfres o dair sengl a ryddhawyd gan Tara ar ddechrau 2022, sef Blerr’ ym mis Ionawr, ‘Rhyl’ ym mis Chwefror,  a ‘Drama Queen’ ym mis Mawrth

“Ysgrifennaus ‘Woman’ ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni gan fy mod yn teimlo fel ‘fraud’ llwyr” eglurodd Tara am y sengl rymus newydd.

“Roeddwn yn gynhyrchydd gwadd ar gyfer eitem newyddion BBC Radio Cymru yn hyrwyddo ‘hunan gariad diamod.’

“Fodd bynnag, doeddwn i ddim hyd yn oed yn hoffi fy hun y diwrnod hwnnw (diolch i PMT a burnout) felly roedd derbyn negeseuon hyfryd o ddiolch ar y rhwydweithiau cymdeithasol mewn ymateb i’r eitem yn fy anfon i’n isel.”

Aiff y gantores ymlaen i egluro sut ysgogodd y teimlad yma iddi fynd ati i ysgrifennu’r trac.

 “Eisteddais yn sgrolio, ‘squirmio’. Aeth yn hwyr ac, yn ôl yr arfer, dechreuais ysgrifennu. Pan dwi’n teimlo hyn o ddwys, mae’r geiriau’n tueddu i ysgrifennu eu hunain.

“Mae’n debyg ein bod ni i gyd yn cael ein dyddiau da a drwg. Y tric yw caniatáu i ni ein hunain fod yr holl bethau hynny. Dyna sy’n ein gwneud ni’n gryfach, yn ddoethach ac yn real.”