Rhys Gwynfor a Lisa Angharad yn rhyddhau sengl ar y cyd

Wedi cyfnod tawel mae Rhys Gwynfor yn ôl gyda sengl newydd ar y cyd â’i bartner, Lisa Angharad. 

‘Adar y Nos’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 25 Tachwedd, a dyma gynnyrch newydd cyntaf Rhys ers dros flwyddyn a hanner. 

Mae ‘Adar y Nos’ yn anthem prog roc sy’n cadw’n agos at naws cerddoriaeth arferol Rhys – gyda themâu a synau’r 70au’n cael eu creu mewn cyfansoddiadau a dulliau recordio modern.

Er eu bod bellach yn cyflwyno teledu gyda’i gilydd, mae’r cwpl wedi ei chael hi’n anodd cyrraedd y stiwdio dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf, wedi iddynt gael eu plentyn cyntaf, ac oherwydd yr heriau o geisio jyglo bod yn rhieni gyda gwaith a cherddoriaeth. 

“Gath Adar y Nos ei sgwennu dros gyfnod hir yng Nghaerdydd, a’i recordio dros gyfnod hirach yn Stiwdio Sain” eglura Rhys.

“Dwi’n falch iawn fod Lisa Angharad yn canu ar y gân hefo fi a hi hefyd sydd wedi trefnu’r harmonïau. Mai’n gân am fethu cysgu yn y nos, ac mae angen gwrando arni yn uchel.”

Mae Rhys wedi bod yn ysgrifennu a recordio’i albwm ers dros dair blynedd bellach gyda chaneuon fel ‘Canolfan Arddio’ a ‘Bydd Wych’ eisioes wedi amlygu eu hunain fel senglau poblogaidd. 

Yn ogystal â bod yn gyflwynydd teledu, rhan o’r driawd Sorela, a bod yn ysgrifennwraig a perfformwraig ei hun, mae Lisa hefyd yn rhan o ‘troupe’ Cabarela, sydd wedi gwneud cabare comedi yn ‘thing’ yng Nghymru ers tua 5 mlynedd bellach.