Mae’r grŵp electronig, Roughion, wedi rhyddhau fersiwn newydd wedi’i ail-gymysgu o drac poblogaidd ‘Niwl’ a ryddhawyd yn 2021.
Cân gan dri cherddor o Arfon sef Endaf, Dafydd Hedd a Mike RP ydy ‘Niwl’ ac fe’i rhyddhawyd yn wreiddiol fel sengl ym mis Gorffennaf 2021.
Dyma oedd cynnyrch cyntaf prosiect ‘Sbardun Talent Ifanc’ sy’n cael ei redeg gan Endaf, mewn partneriaeth gyda’r Galeri yng Nghaernarfon.
Mae Roughion yn ddeuawd electronig o Geredigion sydd wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd diwethaf, gan wneud eu marc gyda chaneuon gwreiddiol ac ailgymysgiadau. “Ateb Cymru i The Chemical Brothers” yn ôl un o gyflwynwyr BBC Radio Wales.
Ymateb da gan y gynulleidfa
Roedd Roughion yn gyffrous pan gysylltodd Endaf yn holi os fydden nhw’n ail-gymysgu ‘Niwl’, gan wybod y bydden nhw’n gallu newid naws disgo gwreiddiol yn gân i wobbler tecno, fel roedd pobl yn gwneud pan ddechreuodd y genre dawns.
Mae Roughion wedi cadw rhai elfennau o’r trac gwreiddiol ar ddechrau eu fersiwn hwy, ond gan hefyd ychwanegu ochr galetach, bas newydd a sain Roughion 909.
Yn ail hanner y gân, mae’r remics Roughion go iawn yn dechrau, gyda’r elfennau disco yn gadael a’r synau synth yn newid i rywbeth mwy bygythiol a rhyfedd, cyn i lais Dafydd Hedd ddod i mewn i ddod a’r elfennau techno at ei gilydd yn llawn.
Tuag at ddiwedd y trac maent yn ail-gyflwyno synau disgo, yn clymu’r holl gân at ei gilydd.
Yn ôl Roughion, dyma’r ailgymysgiad y maen nhw wedi mwynhau ei greu fwyaf, ac sy’n cael yr ymateb orau gan gynulleidfaoedd.
Mae’r sengl allan yn ddigidol ers 21 Ionawr ar label High Grade Grooves, sef label Endaf.