Mae’r artist drill Sage Todz wedi cyd-weithio â Chymdeithas Bêl-droed Cymru i ryddhau trac newydd i gefnogi’r tîm pêl-droed cenedlaethol.
Rhannwyd ‘O Hyd’ ar-lein ddydd Gwener diwethaf, cyn i Gymru herio’r Wrcain yn eu gêm ail-gyfle ar ddydd Sul 5 Mehefin i ennill lle yng Nghwpan y Byd Quatar yn yr hydref.
Ymddangosodd y trac ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Gwener gan ysgogi ymateb mawr gan gefnogwyr pêl-droed a cherddoriaeth.
Mae’r trac yn agor gyda sampyl o’r gân enwog ‘Yma o Hyd’ gan Dafydd Iwan, sydd wedi dod yn anthem answyddogol y tîm pêl-droed cenedlaethol dros y gemau diwethaf. Mae hynny’n arwain at Sage Todz yn rapio’r geiriau “Dani yma yma. On the way to the top of game, ar ffordd i top y byd. Motch gan ni am dim awgrymau. Mae’r gwlad ei hun yn fach. Ond mae’r draig yn pwyso tunell.”
Daeth Sage Todz, sef Toda Ogunbanwo i ddefnyddio’i enw llawn, i amlygrwydd mawr yn gynharach yn y flwyddyn wrth gyhoeddi fideo o’i hun yn perfformio rhan o’i drac arddull drill Cymraeg gwreiddiol, ‘Rownd a Rownd’, ar y cyfryngau cymdeithasol. Bu iddo ryddhau’r trac yn swyddogol fel sengl yn ddiweddarach ar 1 Ebrill.
Rhannu iaith gyda cherddoriaeth
Ar gyfer ‘O Hyd’ mae Todz Toda, a fagwyd ym Mhenygroes, wedi cyd-weithio â’r rapiwr o Abertawe, Marino, sy’n rapio pennill o’r egniol o’r gân.
“Rydw i’n gyffrous iawn i fod yn gweithio â CBDC [Cymdeithas Bêl-droed Cymru] a Chymru ar y trac yma” meddai Toda.
“Mae pêl-droed yn enfawr yng Nghymru ac ar draws y byd, ac mae gan y gêm le pwysig yn fy nghalon. Mae wedi bod yn wych cyfuno agweddau ar y pethau dwi’n eu caru a chreu rhywbeth arbennig.
“Mae CBDC a’r Timau Cenedlaethol mor bwysig i’r wlad. Pan mae ein pêl-droedwyr yn mynd allan a chynrychioli Cymru, mae’n fwy na gêm yn unig, mae hefyd am gymuned, undod ac mae’n gynrychiolaeth o bwy ydyn ni a beth allwn ni, bobl Cymru, ei wneud.”
“Mae diwylliant Cymru yn golygu llawer i mi fel artist” ychwanegodd y cerddor.
“Yn amlwg dwi’n siarad Cymraeg ac yn gwneud hynny yn fy mywyd bob dydd, felly dwi’n teimlo ei bod hi ond yn naturiol i mi rannu ein hiaith yn fy ngherddoriaeth.”
“Rydw i’n falch iawn o barhau i ddod â’r Gymraeg i gyd-destun mwy modern a dangos bod y Gymraeg yn gallu cyfieithu i fath gwbl wahanol o gerddoriaeth i’r cyfryngau lle mae hi’n cael ei defnyddio fel arfer.”
Cynrychioli amrywiaeth
Mae’r Gymdeithas Bêl-droed yn gobeithio bod y bartneriaeth gyda Sage Todz yn esiampl bellach o’r modd maent yn ymgysylltu a’r diwylliant Cymreig cyfoes.
“Mae CBDC yn sefydliad modern, blaengar a does dim angen iddi ddilyn yr un rheolau confensiynol ag eraill” meddai Pennaeth Cynnwys ac Ymgysylltu CBDC, Rob Dowling.
“Mae’r hyder hwn i’w weld yn glir yn ein cydweithio â Sage Todz. Rydyn ni’n ymgysylltu’n naturiol â diwylliant modern Cymreig nid yn unig i dynnu sylw at y dalent o fewn y wlad, ond hefyd i gynrychioli amrywiaeth y diwylliant hwnnw, lle mae pobl yn mynegi eu hunaniaeth genedlaethol mewn llawer o wahanol gyfryngau.
“Mae CBDC yn talu teyrnged i hanes ac iaith Cymru, sy’n cael eu cynrychioli yn ein holl waith, tra hefyd yn gyfrwng i ni gyd fod yn falch ac yn hyderus yn yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn Gymreig wrth i ni edrych tua’r dyfodol a chreu ein hanes ein hunain.
“Mae’r cydweithio hwn yn ymgorffori ein cenedl fodern a’i chalon hynafol, gyda Yma o Hyd Dafydd Iwan bellach yn anthem angerddol i’r Wal Goch a Thimau Cenedlaethol Cymru. Mae geiriau ac ystyr y gân wrth galon sut rydyn ni’n uniaethu â bod yn Gymry, ac i Sage mae’r mynegiant creadigol sy’n deillio o hynny yn ‘O Hyd’.”
Bydd ‘O Hyd’ yn cael ei rhyddhau’n swyddogol ar 10 Mehefin.