Mae label Recordiau Sain wedi rhyddhau casgliad newydd o ganeuon a recordiwyd ar gyfer cyfres BBC Radio Cymru ‘Ambell i Gân’ heddiw, 1 Mawrth.
Mae’r casgliad yn cynnwys traciau newydd sbon gan rai o artistiaid gwerin amlycaf Cymru – pob un wedi’u recordio ar gyfer y gyfres radio a ddarlledwyd ym mis Medi a Hydref 2021.
Y delynores a chantores werin. Gwenan Gibbard, oedd yn cyflwyno’r gyfres ac roedd yn cynnwys sesiynau gan Llio Rhydderch, Cynefin, Twm Morys a Gwyneth Glyn, Einir Humphreys, Huw Roberts a Sion Roberts a Mair Tomos Ifans.
Dathlu traddodiadau gwerin
Roedd y gyfres radio’n gyfle i ddathlu traddodiadau gwerin Cymru trwy gyfuno sgyrsiau difyr a thraciau hen a newydd gyda pherfformiadau byw, cyffrous. Nawr bydd y perfformiadau hynny ar gael i’w lawr lwytho a ffrydio’n ddigidol o hyn ymlaen.
Mae’r caneuon yn cynnwys traciau offerynnol gan ddewines y delyn deires, Llio Rhydderch, a’r ffidlwr Huw Roberts a’i fab Sion ar y gitâr.
Mae hefyd yn cynnwys caneuon hiraethus gan Einir Humphreys tra bod Twm Morys a Gwyneth Glyn yn rhoi gwedd newydd ar ddwy hen ffefryn.
Caneuon Ceredigion yw arbenigedd Cynefin a dyma gawn ganddo ar y casgliad yma ac yna Mair Tomos Ifans yn rhoi ei stamp ei hun ar ddwy ffefryn personol ganddi.
Deuddeg o draciau sydd ar y casgliad i gyd a phob un wedi eu recordio a’u perfformio mewn arddull ac awyrgylch gartrefol a chynnes, sy’n arddangos didwylledd a phrydferthwch ein caneuon a’n halawon Cymreig.