Sengl a fideo ‘Wedi Blino’ gan Adwaith

Mae’r Adwaith, wedi rhyddhau sengl sy’n flas pellach o albwm newydd y triawd o Gaerfyrddin fydd allan yn fuan. 

‘Wedi Blino’ ydy enw’r sengl newydd gan y grŵp ôl-bync ac fe’i rhyddhawyd ar label Recordiau Libertino ar 9 Mai. 

Dyma’r ail sengl i’w rhyddhau o albwm newydd Adwaith, Bato Mato, fydd allan ar 1 Gorffennaf gan ddilyn ‘Eto’ a ryddhawyd ym mis Chwefror eleni

Mae cryn gyffro ynglŷn â ‘Bato Mato’, sy’n ddilyniant i albwm cyntaf Adwaith, ‘Melyn’, a ryddhawyd yn 2018. Roedd yr albwm hwnnw’n llwyddiant mawr, ac fe gipiodd deitl y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2019. 

Pop indie mawr

Yn dilyn sŵn ewfforig y ‘Eto’, mae ‘Wedi Blino’ yn llawn synau niwlog ac yn cloddio’n ddyfnach i ansicrwydd bod yn eich 20au cynnar.

“Roedden ni eisiau creu cân pop indie mawr sydd â naws melancholy iddi” meddai’r band am eu sengl newydd. 

“Mae’n ymwneud â phoeni bod bywyd yn mynd yn rhy gyflym neu am bryderon perthynas, y teimlad llethol nad ydych chi’n ddigon da ac mai chi yw’r rheswm nad yw pethau’n gweithio allan.”

I gyd-fynd â dyddiad rhyddhau’r sengl, mae Lŵp, S4C wedi cyhoeddi fideo cerddoriaeth ar gyfer ‘Wedi Blino’. Eilir Pierce sydd wedi cyfarwyddo’r fideo ar gyfer y trac gyda Pixy Jones yn olygydd, Gareth Bull yn Gyfarwyddwr Ffotograffiaeth a’r gwaith cynhyrchu gan Ynyr Morgan ac Owain Jones. 

“Mae cysyniad y fideo yn ymwneud â phryder, teimlo’n ddatgysylltiedig o’r byd, teimlo mai chi yw’r broblem bob amser” eglura Gwenllian Anthony o’r band am y fideo. 

“Yr holl emosiynau hyn sy’n amlwg iawn yn eich 20au cynnar. Buom yn gweithio gydag Eilir Pierce i greu’r fideo hwn gan ein bod am iddo fod yn fwy dramatig a thwymgalon na’n fideos eraill.”

Dyma’r fid: