Mae’r triawd ôl-bync arloesol, Adwaith, wedi cyhoeddi bod sengl ar y ffordd ganddynt cyn diwedd y mis, ac albwm i ddilyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
‘Eto’ ydy enw sengl newydd y grŵp o Gaerfyrddin sydd allan ar 22 Chwefror ac sy’n flas cyntaf o ail albwm Adwaith, Bato Mato, fydd allan ar 1 Gorffennaf.
Mae cyfnod y pandemig wedi bod yn un cymharol dawel i Adwaith fel grŵp er bod y gitarydd a phrif ganwr, Hollie, wedi cyd-weithio gyda’r grŵp hip-hop, Culture Vultures, a’r basydd, Gwenllian wedi ffurfio deuawd newydd Tacsidermi yn y cyfnod.
Bydd llawer iawn o bobl wrth eu bodd felly gyda’r newyddion bod dilyniant ar y ffordd ar gyfer eu halbwm cyntaf hynod llwyddiannus, ‘Melyn’, a ryddhawyd yn 2018.
Denodd ‘Melyn’ lwyth o adolygiadau cadarnaol, ac fe gipiodd deitl Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2019.
Taith i Siberia yn ysbrydoli
‘Eto’ oedd y gân gyntaf a ysgrifennwyd ar gyfer eu halbwm newydd yn dilyn y profiad arbennig o chwarae UU.Sound yn Ulan-Ude, Siberia.
Cafodd y daith drwy dirwedd wyllt Siberia a Mongolia ddylanwad mawr ar eiriau a sain yr albwm, gan eu hysbrydoli i greu cerddoriaeth mor eang ac anferth a’r awyr glir o’u hamgylch.
Mae ‘Eto’ yn crisialu eu hyder newydd gyda’i alawon bachog, anferth a’i eiriau gonest, ac mae’r band yn ategu hynny.
“Roedden ni wir eisiau ysgrifennu cân ddiffuant am ddisgyn mewn cariad gyda rhywun” meddai Adwaith.
“Tydi hyn ddim yn rhywbeth rydym yn ysgrifennu amdano ac roedden ishe trin y broses o greu’r gân yma yn wahanol i’n rhai eraill. Cawsom ni ein hysbrydoli i ysgrifennu cân pop enfawr”