Sengl, ac albwm Lastigband ar y ffordd

Bydd  y grŵp seicadelig o’r Gogledd, Lastigband, yn rhyddhau albwm cyntaf ar 4 Mawrth dan yr enw Micro Vector.

Cyn hynny, bydd sengl newydd o’r enw ‘Moon Door’ yn cael ei rhyddhau fel tamaid i aros pryd ar 18 Chwefror.

Mae ‘Moon Door’ yn drac psych Lo-fi Pop sy’n dwyn dylanwad synau Juno 06 gan greu teimlad Siapaneaidd i’r gerddoriaeth. 

Prosiect unigol Gethin Davies, drymiwr y grŵp Sen Segur o Ddyffryn Conwy, ydy Lastigband. Gethin sydd wedi recordio, cymysgu a mastro’r sengl newydd ei hun.