Sengl ac EP Chroma ar y ffordd

Mae’r grŵp roc o’r Cymoedd, CHROMA, yn paratoi i ryddhau sengl newydd fydd yn rhagflas o’u EP nesaf sydd allan yn fuan. 

‘Meindia’r Gap’ ydy enw’r sengl fydd allan ar ddydd Gwener 29 Gorffennaf, ac fe fydd yn damaid i aros pryd nes yr EP, ‘Llygredd Gweledol’ fydd allan bythefnos yn ddiweddarach. 

Triawd roc pwerus o Dde Cymru ydy CHROMA gyda Liam Bevan ar y gitâr, Zac Mather ar y dryms a’r enigma Katie Hall yn canu. Daeth y grŵp i’r amlwg yn 2016 gan berfformio’n rheolaidd cyn cipio teitl Brwydr y Bandiau Radio Cymru / Maes B yn Eisteddfod Y Fenni.

Fis Mehefin eleni  fe gyhoeddodd y band eu bod wedi ymuno â label Recordiau Libertino, gan ryddhau eu cynnyrch cyntaf gyda’r label ar 24 Mehefin, sef y sengl ddwbl ‘Weithiau’ a ‘Caru Cyffuriau’. 

Bydd y ddau drac yma, ynghyd â ‘Meindia’r Gap’ yn ymddangos ar yr EP newydd, yn ogystal ag un trac arall sy’n rhannu enw’r EP. 

Mae’r grŵp wedi recordio’r EP newydd yn fyw gyda’r cynhyrchydd amlwg Kris Jenkins, ac mae’r caneuon yn dal sain amrwd ac egniol CHROMA – sain sydd wedi selio’r band fel profiad byw y mae’n rhaid ei weld.

Mae drymiau di-stop Zac a riffiau bas mentrus Liam yn plethu i greu storm lle mae Katie yn troelli ei gwirionedd melodaidd di-rwystr, yn onest ac sydd yn torri i’r asgwrn.

Casgliad o ganeuon yw ‘Llygredd Gweledol’ sy’n gadael y gwrandäwr yn awyddus am yr hyn a ddaw nesaf, mae’n droad y dudalen, yn dudalen wag gyda’r posibiliadau creadigol o ble mae CHROMA’n mynd nesaf. Mae nhw’n fand gyda chymaint i’w ddweud a chymaint i’w rannu.

Bydd yr EP newydd, ‘Llygredd Gweledol’ allan ar label Recordiau Libertino ar 12 Awst. 

Dyma ‘Meindia’r Gap’: