Trac gan Blodau Papur ydy’r diweddaraf i’w ryddhau fel sengl i nodi pen-blwydd label Recordiau I KA CHING yn 10 oed.
Rhyddhawyd ‘Morfydd’ ddydd Gwener diwethaf, 11 Mawrth.
Roedd I KA CHING yn dathlu deng mlynedd ers sefydlu fel label yn ystod 2021, ond bu’n rhaid cyfyngu rhywfaint ar y dathlu o ganlyniad i’r pandemig, er bod artistiaid y label wedi dod ynghyd i berfformio trefniannau arbennig o’u caneuon gyda Cherddorfa’r Welsh Pops yn Gig y Pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae’r dathlu’n parhau eleni felly wrth i’r label baratoi i ryddhau casgliad arbennig o ganeuon newydd ac ailgymysgiadau gan artistiaid y label. Rhyddheir cân yr wythnos hyd nes yr 20 Mai, pan fydd yr albwm un gân ar bymtheg yn cael ei rydd ar feinyl ddwbl.
‘Morfydd’ ydy cyfraniad Blodau Papur i’r casgliad I KA CHING – 10, a dyma ydy eu cynnyrch cyntaf ers rhyddhau eu halbwm cyntaf yn 2019.
Mae Blodau Papur yn griw amryddawn o gerddorion, sy’n cynnwys llais cyfareddol Alys Williams, Osian Huw Williams (Candelas, Siddi), Dafydd ac Aled Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog/Georgia Ruth) a Branwen Haf Williams (Cowbois Rhos Botwnnog, Siddi). Mae’r grŵp wedi cyfareddu cynulleidfaoedd o Fôn i Fynwy hefo’u cymysgedd o ganu’r felan a ffync Cymreig.
Yn ôl I KA CHING mae ‘Morfydd’ yn codi i dir mwy soffistigedig byth, ble clywir cyffyrddiadau eneidiol, teimladwy’r band yn cwrdd â sŵn cerddorfaol, bron yn James Bond-aidd. Sŵn nid anghyfarwydd i’r band, gan eu bod wedi perfformio gyda Cherddorfa’r BBC a Cherddorfa’r Welsh Pops yn 2018.
Hanes trist Morfudd
Yr ysbrydoliaeth tu ôl i’r gân ydi hanes trist y cerddor amryddawn Morfydd Llwyn Owen a fu farw’n 1918 yn rhy ifanc o lawer yn 26 mlwydd oed.
Roedd hi’n gerddor wrth reddf, yn canu ac yn canu’r piano i safon uchel, ac fe gyfansoddodd dros 250 o weithiau yn ystod ei bywyd byr. Cafodd yrfa ddisglair iawn, ond daeth diwedd i’w chyfnod toreithiog fel cyfansoddwraig wedi iddi briodi Dr Ernest Jones. Tybia llawer ei fod eisiau i Morfydd fod yn wraig iddo fo, a dim byd arall, ac mae’n amlwg fod ei effaith yn fawr arni. Chyflawnodd hi brin ddim byd cerddorol wedi’r briodas.
Darlledwyd ffilm am fywyd Morfydd Llwyn Owen ar S4C yn lled ddiweddar a sbardunodd hynny lawer o drafod ymysg Blodau Papur am ei bywyd, ac fe aned y gân hon o ganlyniad.
Ar achlysur marwolaeth Morfydd, fe ysgrifennwyd yn Y Cerddor: “If the significance of this loss were fully realised, a whole nation would weep at her grave.”
Mae’r sengl allan yn ddigidol yn y mannau arferol, a bydd ar y record feinyl I KA CHING ym mis Mai.