Mae cerddor fu mewn bandiau amlwg yn y gorffennol wedi dychwelyd gyda sengl newydd i gefnogi ymgyrch tîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd.
Jono Davies ydy’r cerddor hwnnw a bydd sawl un yn ei adnabod o’i ddyddiau fel aelod o’r band Something Personal oedd o gwmpas tua dechrau’r mileniwm.
Bydd ei sengl newydd yn gyfarwydd iawn i’r rhan fwyaf o bobl hefyd gan mai fersiwn newydd o’r gân enwog ‘Safwn yn y Bwlch’ gan Hogia’r Wyddfa ydy hi.
Syniad Glyn Hughes, sef nai un o aelodau Hogia’r Wyddfa, Elwyn Jones oedd y fersiwn newydd o’r glasur.
Mae Glyn Pwd fel yr adnabyddir ef, yn hen ffrind ysgol i Jono ac fe gysylltodd â’r cerddor dros yr haf eleni’n awgrymu y gallent recordio fersiwn wedi’i hailwampio o’r gân i gefnogi a dathlu ymgyrch Cwpan y Byd tîm pêl-droed Cymru.
“I fod yn gwbl onest ar y dechrau doeddwn i ddim yn rhy siŵr ei fod yn rhywbeth y byddwn i’n gallu ei dynnu i ffwrdd” cyfaddefa Jono.
“Ond gan fod yn un i beidio byth â thagu her, ar ôl ychydig o sesiynau yn y stiwdio mi dechreuais glywed rhywbeth y gallwn i weithio gydag ef ac o’r eiliad honno ymlaen nid oedd unrhyw atal mewn gwirionedd.”
“Roedd y rhinweddau anthemig a’r geiriau pwerus yn bwynt ffocws clir ac i’w wneud yn fwy cyfnewidiol i Gwpan y Byd fe newidiais ychydig o linellau heb fynd dros ben llestri. Dychmygais ei fod yn cael ei ganu a’i siantio gan y cefnogwyr yn ystod Cwpan y Byd. Roedd yn brofiad hynod o dda a heriol ond boddhaus drwyddo draw. Rwy’n hapus bod Glyn wedi meddwl fy nghynnwys yn ei syniad.”
Er gwaethaf ei gysylltiadau cerddorol, dyna’r tro cyntaf i Glyn fynd ati i wneud rhywbeth fel hyn meddai.
“Roedd hwn yn brofiad hollol newydd i mi, ond roedd popeth i’w weld yn disgyn i’w le wrth i amser fynd yn ei flaen” eglura Glyn.
“Rwy’n meddwl ei fod wedi troi allan yn well nag yr oeddem erioed wedi dychmygu y byddai, felly ni allwn ofyn am fwy mewn gwirionedd.”
Mae’r sengl allan yn ddigidol ar yr holl lwyfannau arferol ar label Something Personal Records ers 14 Tachwedd.
Bydd/roedd Jono Davies yn perfformio mewn noson arbennig yng Nghlwb Golff y Bala ynghynd â’r band Josgins ar nos Lun 21 Tachwedd, sef noson gêm gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd.