Sengl ddiweddaraf Bwca

Mae’r band bywiog o Aberystwyth, Bwca, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 15 Gorffennaf. 

‘Pam Dylen Ni Ddim?’ ydy enw’r trac newydd gan Bwca sydd allan ar label Recordiau Hambon. 

I unrhyw un sy’n gyfarwydd â’r grŵp, fydd hi ddim yn syndod clywed fod eu sengl newydd yn diwn fachog arall, er ei bod yn deg dweud fod ‘Pam Dylen Ni Ddim’ yn gwthio sain Bwca i gyfeiriad ychydig yn wahanol fydd yn synnu rhai mae’n siŵr. 

Un o’r pethau fydd yn ennyn diddordeb yw bod aelod gwahanol yn gyfrifol a ganu’r prif lais ar y trac newydd – Ffion Evans sy’n cymryd yr awenau ar hon yn hytrach na chyfansoddwr a phrif leisydd arferol Bwca, Steff Rees. 

Chwarae’r trwmped a chyfrannu’r llais cefndir ydy rôl arferol Ffion yn y band, ond mae Steff a holl deulu Bwca wedi eu syfrdanu gan natur unigryw ei llais ers sbel ac maen nhw’n llawn cyffro i ryddhau’r gân er mwyn ei arddangos i bawb. 

Gwestai arbennig

Mae’r gân ychydig yn wahanol i’r arfer hefyd gan fod Bwca wedi gwahodd gwestai arbennig  i gyfrannu ei ddehongliad o’r araith gan David Lloyd George gwnaeth ysbrydoli’r gân. Y gwestai dan sylw ydy’r  actor adnabyddus Richard Elfyn sydd wedi actio’r dyn ei hun yn y ffilm ddrama o 2019, ‘Queen Marie of Romania’. 

Ysgrifennwyd y gân yn ystod haf 2020 fel rhan o brosiect ‘Datgloi Ein Treftadaeth Sain’ Llyfrgell Genedlaethol Cymru ble gwnaeth Steff Rees ynghyd a nifer o gyfansoddwyr eraill greu caneuon yn seiliedig ar recordiadau amrywiol o’r Archif Sain. 

Dewisodd Steff i greu cân wedi ei seilio ar araith ‘Why Should We Not Sing’ David Lloyd George o Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1916 yn Aberystwyth. Mae Steff wedi defnyddio ac adeiladu ar eiriau o’r araith hon ar gyfer y penillion ond yn ychwanegu cytgan Gymraeg fachog – rhywbeth fydd yn ddigon adnabyddus i ffans Bwca.

Wrth i’r Eisteddfod ddychwelyd o’r diwedd i Geredigion haf yma a Chymru ar y ffordd i Gwpan y Byd yn Qatar mae geiriau’r gân yn teimlo’n amserol iawn ac yn genedlaetholgar ac anthemig wrth i ni dderbyn yr alwad i ganu yn wyneb yr holl heriau sydd yn ein wynebu boed hynny’n rhyfel, afiechyd neu’n galedi.  

Y cerddorion sydd wedi cyfrannu at y recordiad ydy Ffion Evans (prif lais), Steff Rees (gitârs trydanol ac acwstig a llais cefndir), Alun Williams (gitâr fas a llais cefndir) ac Iwan Hughes (drymiau a llais cefndir). 

Bydd Bwca yn brysur dros fisoedd yr haf gyda sawl gig mawr gan gynnwys Sesiwn Fawr Dolgellau ddydd Sadwrn diwethaf, 16 Gorffennaf, a nifer o lwyfannau’r Eisteddfod Genedlaethol fydd ar eu stepen drws yng Ngheredigion eleni.