Mae’r band newydd o Benygroes, Cai, wedi rhyddhau ei sengl newydd.
‘Guidance for Appeal’ ydy chweched sengl y prosiect ac mae’r trac newydd yn ymdrin â phwnc difrifol sef colled person sy’n bwysig i chi.
Cai ydy prosiect cerddorol Osian Evans ac mae wrthi’n rhyddhau cerddoriaeth dan yr enw ers diwedd 2020. Dywed Osian mai dyma ei hoff gân hyd yn hyn.
“Dwi’n coelio mae’n bwysig iawn i ddal ar y teimlad yma” meddai Osian.
“Y gwerthfawrogiad am fywyd y person yma. Yn bersonol i mi hon yw hoff gân Cai dwi wedi rhyddhau.
“Mae’n llawn lliw i mi ond hefyd yn gymaint mwy personol yn cymharu i fy nghaneuon yn y gorffennol.”
Bydd fideo cerddoriaeth ar gyfer y trac allan fis nesaf wedi’i gyfarwyddo gan Luke Huntley.
‘Guidance for Appeal’ ydy’r ail sengl i’w rhyddhau ar label newydd Inois sy’n cael ei redeg gan Osian a’i gyfaill Hedydd Ioan. Mae dwy sengl newydd ar y gweill gan y label gan yr artistiaid Maes Parcio ac Alaw a bydd rhain yn glanio mis nesaf.