Mae sengl ddiweddaraf y prosiect pop Cymraeg newydd, Popeth, allan ddydd Gwener nesaf, 21 Hydref.
Popeth ydy prosiect cerddorol Ynyr Roberts o’r grŵp Brigyn, sy’n rhoi pwyslais ar gydweithio i gynhyrchu pop Cymraeg i’r byd!
Mae’n brosiect blaengar a chynhwysol â’r caneuon sydd wedi eu cyfansoddi yn llenwi’r gofod yn sîn gerddoriaeth Gymraeg am bop disglair, phositif a chyfoes.
‘Blas y Diafol’ ydy enw sengl ddiweddaraf gan Popeth sy’n ei weld yn cyd-weithio gyda Bendigaydfran (Lewis Owen) ac yn gweld y prosiect yn symud i fyd bywiog, secwinau-lliwgar, Europop.
Nid oes cân Gymraeg wedi cael ei chlywed yn yr Eurovision Song Contest hyd yn hyn, ond pam aros am gân pop bachog yn y famiaith? Wedi’i ysbrydoli gan Bop-Sgandi, mae Gwlad y Gân yn barod ar gyfer dadeni Synthpop!
‘Blas y diafol’ fydd trydedd sengl Popeth, sydd wedi ei chyd-ysgrifennu ac yn cael ei chanu gan Bendigaydfran. Mae’n dilyn y traciau ‘Golau’ a ryddhawyd ym mis Gorffennaf gyda Martha Grug yn canu, ac yna ‘Newid’ a ryddhawyd fis Medi ac oedd yn gweld Popeth yn gweithio gyda Kizzy Crawford.
Mae cerddoriaeth Pop Synth fel y mae Popeth yn ei greu wedi cael adfywiad yn ddiweddar gydag artistiaid bydenwog fel Dua Lipa, Charli XCX a Christine and the Queens yn llwyddiannus iawn. Bwriad Popeth ydy ysgogi adfywiad o’r fath yn iaith y nefoedd hefyd.