Sengl ddwbl Bandicoot

Mae’r grŵp dwy-ieithog o Abertawe, Bandicoot, wedi rhyddhau sengl ddwbl fel tamaid i aros pryd nes eu halbwm sydd allan yn fuan.

Mae’r traciau ‘Fuzzy’ a ‘Monster’ allan ar ffurf record feinyl ers dydd Iau diwethaf, 10 Chwefror.

Dyma flas pellach o’u halbwm cyntaf, ‘Black After Dark’ sy’n cael ei ryddhau ar ddydd Gwener 4 Mawrth.

Mae ‘Fuzzy’ yn cael ei disgrifio fel sengl ‘glam glitter-pop’ ac mae’r traciau diweddaraf yn crisialu’n ddisglair cyfuniad Bandicoot o naws indi ac alawon bachog a dramatig wedi’u hysbrydoli gan gerddoriaeth y 70au.