Bydd Elis Derby yn rhyddhau ei sengl ddwbl newydd ar label Recordiau Côsh ddydd Gwener yma, 22 Ebrill.
‘Disgo’r Boogie Bo’ a ‘Gadawa Fi Mewn’ ydy enw’r ddau drac newydd gan y cerddor a dyma’i gynnyrch newydd cyntaf ers yr albwm, ‘3’, a ryddhawyd ar ddiwedd mis Ionawr 2020.
Roedd Elis wedi rhyddhau ei sengl gyntaf ar label Recordiau Côsh, ‘Cwcw’, ychydig cyn rhyddhau’r albwm ac wedi cael sbin gan y cyflwynydd Gideon Coe ar BBC Radio 6 Music. Roedd yr albwm hefyd wedi cael derbyniad cynnes ar ôl ei ryddhau ond yna daeth y pandemig i chwalu ei gynlluniau hyrwyddo.
Gyda hynny wrth gwrs daeth y cyfleoedd i hyrwyddo’r albwm yn brin, ond gwnaeth yr artist amryddawn pob dim yn ei allu i wneud y gorau o’r sefyllfa, a sicrhau fod y ddwy flynedd ddiwethaf ddim yn wastraff llwyr.
Gyda perfformiadau rhithiol yn dod yn rhan o’r ‘normal newydd’, aeth Elis a’i ffrindiau ati i greu fersiynau unigryw o themâu cerddorol rhaglenni chwedlonol fel ‘The A Team’, ‘Hotel Eddie’ a ‘Tipyn o Stad’.
Datblygodd hynny i ganeuon cyfan a phan laciodd y rheolau, recordiwyd albwm aml-gyfrannog cyfan o cyfyrs o ganeuon Cymraeg enwog o dan yr enw Ciwb.
Wedi’i ysbrydoli gan y profiad, aeth Elis ymlaen i gynllunio, ysgrifennu a recordio ei ail albwm yn stiwdio Sain – a dyma ryddhau’r sengl ddwbl cyntaf oddi ar y casgliad, fydd allan dros yr haf.
Dogfennu’r broses
Mae Elis yn gerddor sy’n ymddiddori’n frwd yn y broses o greu, ac i’r perwyl yna, mae wedi cadw holl demos cynnar y senglau ac wedi dogfennu’r broses ddatblygu’r holl ffordd drwodd i’r recordiad terfynol.
Bydd yr artist yn rhyddhau clipiau ar ei gyfrifon cymdeithasol yn y dyddiau nesaf er mwyn dangos sut y daeth ‘Disgo’r Boogie Bo’ a ‘Gadawa Fi Mewn’ i fodolaeth.
Bydd gig lansio i’r sengl ar y 21 Ebrill yn nhafarn y Glôb, Bangor, gyda’r band Dienw yn cefnogi. Bydd cyfle pellach i weld Elis yn fyw yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd ar 21 Mai.
Bydd sengl ddwbl arall yn dilyn yn y dyfodol agos a bydd dyddiad rhyddhau’r albwm yn cael ei gyhoeddi ar yr un pryd.