Sengl ddwbl gan Achlysurol 

Mae’r triawd o Arfon, Achlysurol, wedi rhyddhau eu sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 29 Ebrill. 

‘Golau Gwyrdd’ ydy enw’r sengl newydd gan y grŵp sydd hefyd yn cynnwys y trac bonws ‘Sinema II’. 

Dyma ydy cynnyrch cyntaf Achlysurol ers bron i ddwy flynedd – y sengl ddiwethaf i ymddangos ganddynt oedd ‘(Dafydd) Ale Dydd Sul’ a ryddhawyd ym mis Mai 2020.

Mae ‘Golau Gwyrdd’ yn gân am yr ysfa i ddianc i dy fyd bach dy hun a gadael pawb a phopeth yn y gorffennol. 

Mae ‘Sinema II’ yn fersiwn piano neu ddilyniant i’r gân ‘Sinema’, sef sengl gyntaf y band ar label JigCal a ryddhawyd yn Nhachwedd 2019. Addaswyd y trac gwreiddiol ar gyfer gig acwstig oedd i fod i ddigwydd dros y Nadolig llynedd – yn anffodus fe ohiriwyd y gig oherwydd Covid ond bydd yn cael ei ail drefnu’n fuan. 

Bydd y band yn brysur gyda gigs dros yr haf gan gynnwys Gŵyl Fwyd Caernarfon, Sesiwn Fawr Dolgellau a mwy. 

Achlysurol ydy Aled Emyr ar y gitâr fas a llais, Ifan Williams ar y gitâr ac Ifan Emyr ar y drymiau.

Mae gan aelodau’r band brofiad helaeth o chwarae mewn bandiau ac i artistiaid gwahanol o Gymru. Chwaraeodd Ifan Emyr gydag Eitha Tal Ffranco ac Alun Tan Lan yn ogystal â bod yn gyn aelod o Tamarisco gydag Aled Emyr.

Bu Ifan Williams mewn sawl band cyn ymuno ag Achlysurol hefyd – mae’n gyn aelod o Hud, Men Among Kings and Masters in France.

Bwriad y band ar ôl ‘Golau Gwyrdd’ ydy rhyddhau mwy o senglau dros yr haf cyn rhyddhau eu halbwm cyntaf diwedd y flwyddyn. 

“Mae’n albwm sydd wedi ei gyfansoddi, ar y cyfan, yn ystod y pandemig ac yn ymwneud a themâu o ddianc ac edrych yn ôl, difaru a sut mae iechyd meddwl yn effeithio sut ydan ni fel pobl yn ymddwyn” meddai’r band. 

“Mae ’na lot o draciau gwahanol arni a da ni’n edrych ’mlaen i bawb cael ei chlywed hi!”