Sengl ddwbl Kathod

Mae’r prosiect cerddorol cydweithredol ‘di-ddiffiniad’, Kathod, yn rhyddhau sengl ddwbl newydd heddiw, dydd Gwener, 5 Awst. 

‘Troelli’ ac ‘O Hedyn Bach’ ydy enw’r ddau drac sy’n cael eu rhyddhau ar label Recordiau I KA CHING.

Mae’r cynnyrch diweddaraf gan Kathod yn dod yn dynn ar sodlau eu sengl ddiweddaraf, ‘Cofleidio’r Golau’, a ryddhawyd ar 22 Gorffennaf.

Mae aelodaeth grŵp Kathod yn amrywio o un trac i’r llall, ac ar gyfer y sengl ddwbl ddiweddaraf mae 9 o ferched creadigol Cymru wedi dod ynghyd i greu dau gyfanwaith cyffrous. 

Y naw artist sydd wedi cyd-weithio i greu’r sengl ddwbl ydy Cerys Hafana, Marged Rhys, Ruth Jones a Sara Alis ar y trac ‘Troelli’, a Laura Nunez (She’s Got Spies), Melda Lois, Rebecca Wyn Kelly a Tegwen Bruce-Deans ar y gân ‘O Hedyn Bach’. 

Mae ‘Troelli’ yn ddarn sy’n archwilio beth sydd yn gwneud i bobl droelli yn y byd cymhleth a chyfnewidiol yr ydym yn byw ynddo ar hyn o bryd. Mae’r gân yn samplo synau pob dydd, ond eto yn creu sain newydd ac annisgwyl.

Mae ‘O Hedyn Bach’ yn ddarn sy’n archwilio’r argyfwng hinsawdd a sut mae natur wedi gorfod ymateb a dioddef o ganlyniad i’r hyn y mae bodau dynol yn ei wneud i’r ddaear.

Gallwch glywed haenau o sain y byd naturiol trwy gydol y gân, ar ben curiad cryf y bas ac alaw dywyll yn cyfeilio i’r darn.

Er mwyn dathlu achlysur rhyddhau’r sengl ddwbl newydd, bydd Kathod yn perchnogi Caffi Maes B, Eisteddfod Genedlaethol Tregaron rhwng 19:45 a 21:30, ar ddydd Gwener 5 Awst. 

Bydd She’s Got Spies, Melda Lois a Gwen Mairi yn perfformio’n fyw, a chyd-cynhyrchwyr y prosiect – Catrin Morris a Heledd Watkins – yn DJio trwy gydol y digwyddiad. Bydd hefyd siawns i unrhyw un ddod i’r llwyfan i gymryd rhan mewn digwyddiad meic agored.