Mae Los Blancos wedi rhyddhau eu sengl ddwbl newydd sef ‘Chwaraewr Gorau (Yr Ail Dîm)’ a ‘Kareen Abdul Jabbaar’.
Mae’r caneuon diweddaraf yn gipolwg o drywydd albwm nesaf hir-ddisgwyliedig Los Blancos.
Dyma’r cynnyrch diweddaraf gan Los Blancos ers rhyddhau’r EP ‘Detholiad o Ganeuon Traddodiadol Gymreig’ yn Awst 2021. Yr EP enillodd wobr ‘Record Fer Orau’ Gwobrau’r Selar nôl ym mis Chwefror eleni.
Teyrnged i seren pêl-fasged
Roedd ‘Detholiad o Ganeuon Traddodiadol Gymreig’ yn cynnwys caneuon wedi eu hysgrifennu gan bob un o aelodau’r band, ac mae’r cyfrifoldebau cyfansoddi’n cael eu rhannu ar ddwy gân y sengl ddwbl hefyd.
“Ysgrifennais fersiwn fras o Kareem Abdul Jabbar yn ystod y cyfnod clo cyntaf, ar ôl cyfnod o wylio llwyth o bêl-fasged” meddai Dewi Jones, basydd Los Blancos.
“Kareem Abdul-Jabbar yw’r prif sgoriwr pwyntiau yn yr NBA erioed ond mae hefyd yn actor, awdur ac yn eiriolwr cyfiawnder cymdeithasol llwyddiannus. Mae’r gân yn deyrnged iddo.
“Rwyf bob amser wedi fy syfrdanu gan ba mor ostyngedig ydyw, yn enwedig pan ystyriwch ei gyflawniadau. Mae cyfeiriadau hefyd at ei “skyhook” ddigyfnewid a’i gameo yn y ffilm Airplane.
“Ro’n i wedi bod yn gwrando lot ar Jefferson Airplane, Hendrix a Neil Young, a newydd ail-wylio ‘Once Upon a Time in Hollywood’ ac yn trio creu rhyw fath o naws California o’r 1970au (dwi ddim yn siŵr os daw hynny drwodd, ond rwy’n hoffi’r canlyniad serch hynny)” ychwanegodd Dewi.
Cofio’r cleisiwr Cusack
Ffryntman y grŵp, Gwyn Rosser sy’n gyfrifol am ail drac y sengl ddwbl.
“’Ysgrifennwyd ‘Chwaraewr Gorau (Yr Ail Dim)’ cyn y clo ac mae’n cymryd dylanwad gan artistiaid fel Stephen Malkmus a Twin Peaks – artistiaid sydd wedi bod yn ffefryn i’r band ers y cychwyn” meddai Gwyn.
“Dechreuodd fel demo garw ac adeiladwyd arno yn ystod sesiynau recordio dros y clo. Mae’r gân yn bortread o rywun sy’n slacker/bron yn ddyn.
“Roeddwn i hefyd eisiau cynnwys rhai cyfeiriadau pêl-droed yn y gân. Mae’n cynnwys cyfeiriad at Nick Cusack, cyn-chwaraewr tîm pêl-droed Abertawe, a oedd yn dipyn o gleisiwr pan oedd yr Elyrch yn yr adrannau isaf.”