Wrth baratoi i ryddhau eu halbwm cyntaf, mae Sister Wives wedi rhyddhau sengl ddwbl newydd ers 11 Hydref.
‘O Dŷ i Dŷ’ a ‘Streets at Night’ ydy enw’r traciau diweddaraf i ymddangos gan y grŵp ôl-bync Cymraeg o Sheffield ac mae’n damaid i aros pryd nes eu halbwm cyntaf, ‘Y Gawres’, fydd allan ar 28 Hydref.
Daw’r sengl ddwbl yn dilyn rhyddhau cyfres o senglau gan y grŵp sydd wedi cael derbyniad ardderchog hyd yn hyn, gan arwain ar ymddangosiadau gan Sister Wives mewn gwyliau ar draws y DU dros yr haf.
Wedi’u hysbrydoli gan fytholeg Gymreig, mae eu cerddoriaeth yn archwilio cymysgedd gyfoethog o seicedelia, gwerin, post-pync, garej a glam roc y 70au. Cyhoeddodd Sister Wives yn ddiweddar y bydd eu halbwm cyntaf yn cael ei ryddhau ar 28 Hydref trwy label Recordiau Libertino.
Trafod traddodiad
Mae’r trac newydd ‘O Dŷ i Dŷ’ yn sôn am arferiad gwerinol Cymraeg De Cymru, Y Fari Lwyd. Mae’r gân yn trafod y traddodiad ac yn cwestiynu a yw hi wedi cael ei phriodoli’n ddiwylliannol, ac os ydyw, a yw hyn yn beth drwg ai peidio.
Mae’r adroddiadau cynharaf am y pen ceffyl yn dyddio’n ôl i 1798, ond dirywiodd y traddodiad mewn poblogrwydd ar ddechrau’r 20fed ganrif.
Gwelodd y traddodiad adfywiad tua diwedd yr 20fed ganrif ac yna yn yr 21ain ganrif mae wedi cynyddu mewn poblogrwydd gyda’r ddelwedd eiconig, a defnydd o’r Fari Lwyd, yn ymledu cyn belled â Gogledd America. Mae ‘O Dŷ i Dŷ’ yn cyfeirio at sut mae hi’n ceisio cael mynediad i dai, lle byddai brwydr gerddorol yn cychwyn i gael mynediad, fel ryw fath o slam farddol.
“Mae’r gân yn cwestiynu a yw hyn yn ffordd o ddathlu diwylliant Cymreig neu’n fath o briodoldeb diwylliannol” meddai’r band.
“Mae’n sôn sut ‘mae’r gaseg yn rhedeg yn rhydd, gadewch i ni weld lle mae hi’n glanio’ ac yn gofyn i bobl fyfyrio a yw’r rhai sydd wedi atgyfodi’r traddodiad mewn gwledydd eraill yn euog o ddwyn ei sgerbwd.”
Strydoedd y nos
Mae ‘Streets at Night’ yn ddisgrifiad llythrennol, gweledol o sut y mae’n teimlo i ofni am eich bywyd wrth gerdded yn y nos.
Wedi’i baru ag organ retro a thempo cyfnewidiol, mae’r trac yn trwytho ymdeimlad nodedig o ofn – bron yn efelychu trac sain ffilm arswyd glasurol.
“Ysgrifennwyd y gân fel allfa ar gyfer y profiad hwn rydyn ni i gyd wedi’i deimlo” meddai’r band.
“Roedd cyflymder y gân yn newid hanner ffordd drwodd yn dylanwadu ar y geiriau ac rydyn ni’n clywed curiadau calon yn cyflymu ac yn arafu drwyddi draw, gan adlewyrchu’r teimlad o fod yn effro iawn pan fyddwch allan yn cerdded ar ein pennau ein hunain”.
Mae cyfres o gigs gan Sister Wives ar y ffordd dros yr wythnosau nesaf. Dyma’r dyddiadau:
26.10.22 – The Lanes, Bryste
28.10.22 – Bunkhouse, Abertawe
28.10.22: Cwtch Festival, Sir Benfro
29.10.22 – Le Pub, Casnewydd
4.11.22 – Delicious Clam, Sheffield (Lansiad Albwm)
20.11.22 – Future Yard, Penbedw
3.12.22 – Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug
Dyma fideo ar gyfer ‘O Dŷ i Dŷ’ sydd wedi’i gynhyrchu ar gyfer cyfres Lŵp: