Sengl Glain Rhys ydy’r nesaf o gasgliad I KA CHING

Sengl gan Glain Rhys ydy’r ddiweddaraf i’w rhyddhau o’r casgliad i ddathlu deng mlwyddiant y label recordiau I KA CHING.

‘Sara’ ydy enw’r trac newydd gan Glain Rhys a ryddhawyd ddydd Gwener diwethaf, 18 Chwerfor.

Roedd label Recordiau I KA CHING yn dathlu 10 blynedd ers ffurfio llynedd, ond bu’n rhaid dal nôl rhywfaint ar y dathliadau oherwydd y pandemig. Y prif achlysur i nodi’r pen-blwydd  yn 2021 oedd  Gig y Pafiliwn rhithiol a gynhaliwyd ym mis Awst ble daeth rhai o artistiaid y label ynghyd i berfformio trefniannau arbennig o’u caneuon gyda Cherddorfa’r Welsh Pops. 

Ond oherwydd y sefyllfa oedd ohoni llynedd, nid oedd modd gwireddu pob rhan o’r dathliad, felly mae’r label yn parhau gyda hynny eleni wrth ryddhau clamp o gasgliad o ganeuon newydd ac ailgymysgiadau gan artistiaid y label. 

Mae’r label yn rhyddhau un gân o’r casgliad bob wythnos nes dyddiad rhyddhau’r albwm ar 20 Mai, pan gyhoeddir yr un gân ar bymtheg ar feinyl ddwbwl sgleiniog.

Sŵn newydd Glain

Sengl Glain Rhys ydy’r ddiweddaraf o’r rhain gan ddilyn traciau gan Candelas, Gwenno Morgan a Carcharorion sydd wedi’u rhyddhau dros yr wythnosau diwethaf. 

Bydd y gân iasol ‘Sara’ eisoes yn gyfarwydd i lawer gan i Glain ei pherfformio am y tro cyntaf fel rhan o’r Gig y Pafiliwn I KA CHING fis Awst.

Glain yw aelod diweddaraf teulu’r label, ac roedd hi’n benderfynol o ail-ddiffinio ei harddull cerddorol pan ymunodd ddechrau 2021. Ers hynny, mae wedi bod yn gweithio gydag Osian Huw, Stiwdio Drwm i ddatblygu sŵn mwy pop electronig, fel y clywir ar y senglau ‘Plu’r Gweunydd’ a ‘Swedish Tradition’. 

“Ymateb i’r gân Jolene gan Dolly Parton ydi ‘Sara’” eglura Glain Rhys. 

“Dwi’n cofio gwrando arni a meddwl, tybed be fydde hi’n ddeud yn ôl. Ma pawb mor barod i farnu hi ond neb wedi clywed ei hochr hi o’r stori.” 

“Recordiwyd y sengl yn stiwdio Sain yn Llandwrog flwyddyn dwetha, a hon ydi un o fy hoff ganeuon oddi ar fy narpar albwm newydd. Osian sy’n creu’r trefniannau offerynnol i fi, a dw i wrth fy modd hefo’r diwedd epic.” 

Mae fideo ar gyfer y trac wedi’i gyhoeddi ar lwyfannau Lŵp, S4C er dydd Gwener hefyd, a hwn wedi’i gyfarwyddo gan Lindsay Walker.