Mae’r band indie-pop poblogaidd o’r Gogledd, Gwilym, yn ôl gyda’u sengl newydd sbon sydd allan ar 17 Mehefin.
‘cynbohir’ ydy enw’r sengl newydd sydd allan ar label Recordiau Côsh, a dyma’r blas cyntaf o ail albwm y grwp fydd yn cael ei ryddhau yn yr hydref.
Er yn frith o’r melodïau bachog sydd wedi bod yn gyfarwydd yng nghynnyrch blaenorol y band, mae ‘cynbohir’ hefyd yn rhoi blas i wrandawyr o gyfeiriad cerddorol newydd y pumawd.
Aelodau Gwilym yw’r prif leisydd Ifan Pritchard, Rhys Grail a Llew Glyn ar y gitârs, Carwyn Williams ar y bas, a’r drymiwr Llŷr Jones.
Ers sefydlu yn 2017, mae’r band wedi denu dros 1.5 miliwn ffrwd ar Spotify, yn ogystal â chasglu llond trol o Wobrau’r Selar gan gynnwys 5 gwobr yn Chwefror 2019.
Un o’r gwobrau hynny oedd teitl y ‘Record Hir Orau’ am eu halbwm cyntaf, ‘Sugno Gola’. Mae Gwilym wedi rhyddhau senglau ers hynny, ond bydd tipyn o gyffro ymysg eu ffans i glywed fod albwm newydd ar y gweill.
Mae ‘cynbohir’ hefyd yn cynnwys llais un o sêr newydd sîn indie-pop Caerdydd, Hana Lili.
Dyma sengl ddiweddaraf Gwilym, ’50au’ a ryddhawyd yn Ionawr 2021: