Sengl Gymraeg gyntaf Woodooman ar y ffordd

Bydd yr artist aml-offerynnol o Gaerdydd, Iwan ap Huw Morgan, yn rhyddhau sengl newydd dan yr enw Woodooman ddiwedd mis Mawrth. 

‘Y Nos Mewn Cariad’ ydy enw sengl Woodooman fydd allan ar 25 Mawrth ar label Recordiau Dewin. 

Dyma sengl Gymraeg gyntaf Woodooman, er ei fod wedi rhyddhau nifer o draciau Saesneg cyn hyn gan gynnwys yr albwm ‘Obsidilove’ yn 2020.

Cariad at  unigedd

Trac atmosfferig ydy ‘Y Nos Mewn Cariad’. Baled sy’n crynhoi tirwedd ‘o dân i rew’ arlwy creadigol diweddaraf Iwan, gan dreiddio i fyd seicedelig tywyllach o stoner-punk arbrofol, tanddaearol.

“Mae’r gân yn tynnu ar gariad yr artist at unigedd” meddai Iwan am ‘Y Nos Mewn Cariad’. 

“Mae’n ddathliad o harddwch y nos a’i dirgelwch sy’n ein hannog i ryddhau ein meddyliau a’n calonnau i’r anhysbys.”  

Dwys, atmosfferig a tribal ar adegau; mae ‘Y Nos Mewn Cariad’ yn brofiad dyrchafol ac arswydus sy’n llawn elfennau o wreiddiau cyfriniol Woodooman.

Mae llais angerddol Morgan yn wirioneddol drawiadol a syfrdanol, a dylanwadau fel y diweddar Mark Lanegan a Nick Cave yn dod i’r arwyneb.