Sengl gyntaf Dadleoli

Mae band newydd sbon wedi rhyddhau eu sengl gyntaf, a hwnnw’n drac arall i’r rhestr niferus o ganeuon i gefnogi ymgyrch Cwpan y Byd tîm pêl-droed dynion Cymru. 

‘Cefnogi Cymru’ ydy’r enw amlwg ar sengl gyntaf y band Dadleoli sydd allan ers dydd Gwener 18 Tachwedd. 

Ffurfiwyd Dadleoli fel rhan o brosiect ‘Yn Cyflwyno’ yng Ngŵyl Tafwyl 2022. Roedd hwn yn brosiect oedd yn dod a bandiau at ei gilydd, gan ddefnyddio mentoriaid, ac yna’n rhoi llwyfan iddynt yn lleoliad Clwb Ifor Bach ac yn Yurt Tafwyl. 

Ers yr haf, mae Dadleoli wedi bod yn brysur ac mae eu gweithgarwch wedi cynnwys gigs llwyddianus gyda Dafydd Iwan yn y Paget Rooms, Penarth, ynghyd â pherfformiad ar Noson Lawen. 

Yn ogystal â hyn, bu Dadleoli ar raglen BBC Radio Cymru Trystan ac Emma ar ddyddiad rhyddhau’r sengl a byddant yn perfformio mewn gig arbennig yng Nghanolfan Yr Urdd, Bae Caerdydd, cyn gêm gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd ar dydd Llun 21 Tachwedd. 

Aelodau Dadleoli ydy Jake, Jac, Tom Caleb ac Efan ac maent i gyd yn  gefnogwyr ifanc, ond brwd iawn y tim pêl-droed cenedlaethol. 

“Fedra ni ddim disgwyl i bawb glywed ein sengl cyntaf, ‘Cefnogi Cymru’, a rwy’n llawn gobeithio gweld Gareth Bale yn ei chanu pryd godw ni gwpwn y byd yn Qatar” meddai Efan, canwr 15 oed y band.