Sengl gyntaf Mr Phormula ar label newydd

Bydd Mr Phormula yn rhyddhau ei sengl newydd, a’i gyntaf ers ymuno â label newydd, Bard Picasso, ddydd Gwener yma 18 Chwefror.

‘Roads’ ydy enw’r sengl newydd sy’n cynnwys y gwestai arbennig Lord Willin – artist profiadol o Providence, Rhode Island.

Parch ydy testun y gân, gyda’r ddau gerddor yn gwehyddu penillion dros guriad boombap modern, diolch i gynhyrchu medrus Mr Phormula.

Mae Mr Phormula yn arddangos ei sgiliau rapio Cymraeg yn gelfydd, a Lord Willan yn profi ei dalent ysgrifennu amrywiol.

Dyma’r fideo cerddoriaeth i gyd-fynd â’r sengl newydd: