Mae blwyddyn brysur Mali Hâf yn parhau wrth iddi ryddhau ei sengl ddiweddaraf ddydd Gwener diwethaf, 4 Tachwedd.
‘Fern Hill’ ydy enw’r trac diweddaraf gan y gantores o Gaerdydd ac mae allan ar label Recordiau JigCal.
Bydd y trac hefyd yn ymddangos ar EP newydd Mali fydd yn cael ei ryddhau cyn diwedd y flwyddyn.
Mae sain fwy electroneg ar y sengl yma o’i chymharu â ‘Pedair Deilen’ a ryddhawyd ym mis Awst, ac mae’r geiriau dwyiaethog yn llifo o’r Gymraeg i Saesneg mor naturiol â llif yr afon i’r môr.
“Fe sgwennais i’r gân ma gyda fy ffrind Alisha Davies yn chware ar y gitâr” meddai Mali am y sengl newydd.
“Mae’r gitâr dal i fod ar y trac ond nawr gyda beats electroneg. Dwi’n hoff o’r gyferbyniaeth, a’r ddwy iaith hefyd yn cyferbynnu a plethu mewn i’w gilydd.”
Bydd Mali a’r band yn parhau i fod yn brysur dros y misoedd nesaf, gyda gigs i’w cyhoeddi yn fuan.