Mae Kizzy Crawford wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 29 Ebrill.
‘Cân Merthyr’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Recordiau Sain ac mae’n damaid i aros pryd nes rhyddhau ei halbwm newydd, ‘Cariad y Tir’, ar 20 Mai.
Mae Kizzy wedi cael cyfnod cynhyrchiol iawn dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae’r gerddoriaeth yn dal i lifo ganddi wrth iddi ryddhau’r sengl newydd.
Mae’r sengl a’r albwm newydd yn mynd â Kizzy ar drywydd fymryn yn wahanol gan ei fod yn llawn o ganeuon gwerin traddodiadol ac emynau Cymreig, ac sy’n rhoi cyfle iddi arbrofi gyda nifer o ganeuon sy’n agos at ei chalon.
Mae Cân Merthyr yn gân facaronig, lle mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn eistedd ochr yn ochr â hynny’n gwbl naturiol.
Mae’n gân eitha’ doniol am ddyn a’i berthynas amheus gyda’i wraig, fel yr eglura Kizzy.
“Er bod y stori ddim yn un positif iawn mae’r ffordd y cafodd ei hysgrifennu yn ddiddorol a dyna beth wnaeth fy nenu i at y gân ’ma, ac wrth gwrs mae wedi ei seilio yn Merthyr, lle dwi’n byw.”
“O’n i eisiau rhoi sbin fy hun ar y gân trwy greu cerddoriaeth siriol a hwyliog i wrthgyferbynnu efo’r stori dywyll…” ychwanegodd Kizzy.
Mae’r sengl, a’r albwm yn dilyn yn fuan iawn ar ôl albwm diwethaf Kizzy, ‘Rhydd’ a ryddhawyd ar Sain ym mis Tachwedd 2021.
Unwaith eto, fel gyda’r albwm ‘Rhydd’, mae Kizzy wedi recordio, cynhyrchu a chymysgu popeth ei hun yn ei stiwdio gartref yn ogystal â chwarae’r holl offerynnau.
Dyma ‘Cân Merthyr’: