Mae dau o artistiaid mwyaf blaengar a chydweithredol Cymru wedi dod ynghyd i weithio ar sengl newydd sydd allan penwythnos yma.
‘Rhyddid’ ydy enw’r trac newydd gan Mr Phormula Eädyth – dau o artistiaid mwyf cynhyrchiol ac arloesol Cymru ar hyn o bryd.
Mae’r ddau artist yn gyfarwydd iawn am eu deunydd unigol wrth gwrs, ond hefyd am gyd-weithio’n rheolaidd gydag artistiaid eraill. Mae Eädyth wedi cyd-weithio tipyn gyda’r cynhyrchydd Shamoniks, gan hefyd ryddhau cerddoriaeth yn ddiweddar gydag Izzy Rabey, Endaf, Ifan Dafydd a Ladies of Rage.
Mae Mr Phormula yntau hefyd wedi cyd-weithio gydag artistiaid amrywiol eraill sy’n cynnwys y rapiwr o Lundain, Micall Parksun, Ystyr a Lleuwen.
Y tro hwn, mae’r ddeuawd yn archwilio positifrwydd a naws yr haf dros ddarn bywiog o gerddoriaeth wedi’i gynhyrchu gan Mr Phormula yn ei stiwdio ei hun, Studio Panad.
Yn drac sy’n gwthio’r ffiniau ar gyfer hip hop Cymraeg, mae’n gartrefol iawn yn cael ei ryddhau ar label Bard Picasso.
‘Dwi di bod isio cyd-weithio efo Eädyth ers sbel ac yn ffan mawr o’i cherddoriaeth hi” meddai Mr Phormula (Ed Holden).
‘Yn ddiweddar roedd y ddau ohona ni ar brosiect ‘Codi’ efo Tŷ Cerdd a dros gyfnod y prosiect cafon ni gyfle i drafod collab a dyna ni rili, y canlyniad ydy ‘Rhyddid’.
“Fel rhan o’r release ma gyno ni hefyd fideo lyric wedi’i animeiddio, a bydd hwn yn dod allan ar 15 Gorffennaf ar Bardd Picasso.”