Mae trac gan Mr Phormula a gomisiynwyd yn wreiddiol ar gyfer ymgyrch rowndiau terfynol Cymru yn yr Ewros llynedd, bellach wedi’i ryddhau’n swyddogol fel sengl.
‘Un Cenedl’ ydy enw’r gân a ddechreuodd ei bywyd fel ffrwyth cydweithrediad rhwng Mr Phormula a rhaglen bêl-droed S4C, Sgorio, wrth i dîm pêl-droed dynion Cymru fentro i rowndiau terfynol yr Ewros.
Ers 17 Mehefin, mae’r trac allan yn swyddogol fel sengl ar y llwyfannau digidol arferol, a hyn trwy label Bard Picasso.
Unwaith eto mae Mr Phormula yn dangos pam ei fod yn enw mor gyfarwydd yn y sin hiphop Cymreig, ac mae’n amserol i ryddhau ‘Un Cenedl’ nawr fel rhan o ddathliad buddugoliaeth diweddar Cymru’n erbyn Wcrain sydd wedi sicrhau lle i’r tîm yng Ngwpan y Byd yn hwyrach yn y flwyddyn.
Mae ‘Un Cenedl’ yn trafod y themâu o undod a chydweithredu drwy hybrid syfrdanol o basslines ynghyd â llais nodedig Mr Phormula.
Bydd digon o gyfleoedd i weld Mr Phormula yn arddangos ei dalent ar lwyfannau byw dros yr haf wrth iddo berfformio mewn nifer o wyliau gan gynnwys Gŵyl Car Gwyllt, Sesiwn Fawr Dolgellau, yr Eistedd Genedlaethol yn Nhregaron a’r ŵyl hip hop Hydro Jam 2022 ger Treherbert yn y Rhondda.