Fleur de Lys ydy’r band diweddaraf i roi ymgais ar ryddhau sengl Nadolig eleni, a bydd eu trac newydd allan ddydd Gwener yma, 16 Rhagfyr.
Mae’n teimlo fel bod artistiaid Cymru wedi gorfod dewis rhwng rhyddhau cân Cwpan y Byd neu cân Nadolig y flwyddyn yma, ac mae’r band poblogaidd o Ynys Môn wedi penderfynu ysgrifennu ar gyfer yr ŵyl yn hytrach na’r pêl-droed.
‘Bwrw Eira’ ydy enw’r sengl Nadoligaidd fydd yn cael ei rhyddhau ar label Recordiau Côsh.
Nid dyma’r tro cyntaf i Fleur de Lys ryddhau trac Nadolig – mae’n ddwy flynedd ers eu hymgais ddiweddaraf ar gân ‘Nadolig sef ‘Amherffaith Perffaith’.
Er hynny mae’r senglau ‘Fory ar ôl Heddiw’ a ‘Ffawd a Ffydd’ wedi dilyn wrth i’r pedwar aelod weithio tuag at albwm newydd.
“Damwain” oedd ysgrifennu cân Nadolig yn ôl prif ganwr Fleur de Lys, Rhys Edwards. Aeth Rhys â’r cyfansoddiad i Craig Las at ddrymiwr a chynhyrchydd y band, Siôn Roberts, ac wrth iddyn nhw allu ei throi hi rownd yn gyflym, roedd hi’n gwneud synnwyr fel cân Nadoligaidd.
Mae Fleur de Lys yn cyfaddef nad ydyn nhw’n siŵr os fydd hon ar yr albwm newydd neu beidio, ond mae pawb yn eitha’ hyderus fydd cynnyrch newydd i ddod drwy gydol 2023.