Mae Eden wedi rhyddhau eu cân Nadolig ers dydd Gwener diwethaf, 9 Rhagfyr.
‘Nadolig Adre Nôl’ ydy enw’r sengl Nadoligaidd sydd allan ar label Recordiau PWJ.
Dyma’r cynnyrch diweddaraf gan y triawd a ddaeth yn boblogaidd yn wreiddiol yn y 1990au ond sydd wedi cael adfywiad dros y blynyddoedd diwethaf wrth iddynt ymddangos mewn digwyddiadau mawr fel Tafwyl a’r Eisteddfod Genedlaethol.
Mae’r trac newydd yn ddilyniant i’r sengl ‘Rhywbeth yn y Sêr’ a ryddhawyd ganddynt ym mis Awst eleni.
“Mae ‘Nadolig Adre Nôl’ yn crisialu’r teimlad arbennig, y teimlad unigryw i bob teulu pan ddaw hi i ddathlu’r Nadolig” meddai’r band.
“Mae ganddon ni gyd ein traddodiadau a’n harferion ac mae’r cysur mae rhywun yn ei gael o fod yn rhan o’r byd cyfrin hwnnw yn hudolus.”
Mae’r geiriau a’r alaw gan Caryl Parry Jones, a dyma’r tro cyntaf iddi hi ac Eden gyd-weithio gyda’r cerddor dawnus Nate Williams sydd wedi cynhyrchu’r trac.
Yn ôl aelodau Eden, maen nhw’n edrych ’mlaen yn fawr at weithio gyda’i gilydd eto yn y flwyddyn newydd.