Sengl Nadolig Ffos Goch yn codi arian at fanciau bwyd

Rydyn ni wedi gweld llwyth o ganeuon Nadolig Cymraeg newydd eleni, ac un arall i’r casgliad  yw hwnnw gan y prosiect cerddorol newydd, Ffos Goch. 

‘dim eira, dim sioe’ ydy enw’r trac sydd wedi’i ryddhau ar safle Bandcamp Ffos Goch ac mae’r sengl yn un elusennol gyda holl elw’r gwerthiant yn mynd i fanciau bwyd Reddich a Coventry yn Nghanolbarth Lloegr. 

Mae Ffos Goch yn brosiect diddorol a sefydlwyd gan y cerddor profiadol Stuart Estell, sy’n byw yn Reddich, Swydd Gaerwrangon. 

Nid dyma’i gynnyrch cyntaf dan yr enw – mae eisoes wedi rhyddhau dwy sengl flaenorol sef ‘dim ond gwichiaid moch’ ym mis Hydref eleni, ac yna ‘gwylio’r adar’  ym mis Tachwedd. 

Ewropop cawslyd

Ar gyfer y sengl ddiweddaraf, mae wedi cyd-weithio gyda’i hen gyfaill, Mark Piatowski. 

“Syniad Mark wedd e’ i wneud y fersiwn gwreiddiol swnio’n fwy fel Ewropop cawslyd” meddai Stuart. 

Er eu bod yn ffrindiau ers amser maith, dyma’r tro cyntaf i’r ddau gyd-weithio’n gerddorol wrth i Mark ychwanegu’r synths i’r trac. 

Mae pedair fersiwn o’r trac ar Bandcamp Ffos Las – y fersiwn wreiddiol, fersiwn amgen ‘dim eira, dim parti (Sion Corn yn y carchar) a fersiynau Saesneg o’r ddwy yma.

Mae un trac arall ar y casgliad byr hefyd sef ‘o deuwch, ffyddlonaid, deuwch mas ar streic’. 

“Mae’r cytgan ‘dim eira, dim sioe / no snow, no show’ yn cyfeirio at ddywediad Ian McCulloch o Echo & The Bunnymen cyn eu gigs nhw yn yr wythdegau” eglura Stuart. 

“Mae’r B-side yn mynegi cefnogaeth i bawb sydd ar streic ar hyn o bryd” ychwanega.

Dechrau gyda Datblygu

Dechreuodd prosiect Ffos Goch fel rhan o benwythnos i ddathlu’r band Datblygu a gynhaliwyd yn Llanbedr Pont Steffan ym mis Mehefin 2022.

Bryd hynny roedd Stuart wedi paratoi set fer o ganeuon Datblygu ac fe sylweddolodd yn gyflym iawn nad oedd digon o ddeunydd ganddo ar gyfer y perfformiad. Felly ei ateb oedd i ddechrau ysgrifennu caneuon yn y Gymraeg am y tro cyntaf!

Roedd y penwythnos hwnnw’n un wedi’i anelu’n bennaf at ddysgwyr Cymraeg ac mae Stuart ei hun wedi dysgu’r iaith yn ddiweddar. Mae ei deulu’n dod yn wreiddiol o Geredigion, ond dim ond ers 2019 mae Stuart wedi dechrau dysgu’r iaith o ddifrif, er gwaetha’r ffaith iddo fod yn organydd i gapel Cymraeg Loveday St yn Birmingham am ddeunaw blynedd.  

Mae dylanwad Dave a Pat Datblygu wedi bod yn enfawr ar Stuart meddai, yn ogystal â’r grŵp ôl-bynd o Fanceinion, The Fall. Yn wir, Stuart oedd un o’r rhai a chwaraeodd y gitâr yn ystod gigs enwog The Fall ym 1998 pan ddywedodd ffryntman y grŵp, Mark E. SmithIf it’s me and yer granny on bongos, it’s The Fall.”

Mae Stuart hefyd wedi recordio deunydd yn y gorffennol gyda Julia Adamson, cyn-aelod The Fall. 

Yn gerddor profiadol iawn, mae prosiectau cerddorol blaenorol Stuart yn hynod o amrywiol – o ganu gwerin, piano clasurol, a deuawd tiwba doom metal! Gyda lwc fe welwn ni fwy o gerddoriaeth newydd ganddo yn ystod 2023.