Mae’r canwr-gyfansoddwr cynhyrchiol o Abertawe, Geraint Rhys, wedi ymuno â hwyl yr ŵyl gan ryddhau ei sengl newydd .
Mae’r sengl ddiweddaraf yn hollol wahanol i’r hyn rydym wedi gweld o’r gan Geraint yn y gorffennol, sy’n adnabyddus am ei ganeuon protest a gwleidyddol.
Cân Nadolig o’r enw ‘Amser Dolig’ ydy’r sengl newydd ganddo sydd allan ar label Akruna Records.
Mae’r gân Nadoligaidd yn ymdrech i greu awyrgylch gysurus a chyfarwydd ar gyfer yr ŵyl, ond fel y byddech yn disgwyl gan Geraint, hefyd yn trafod pwysigrwydd y Nadolig fel adeg i gymryd seibiant o fwrlwm bywyd ac adlewyrchu ar berthnasau.
“Dyma gân gafodd ei hysbrydoli gan fyw i ffwrdd o gartref a’r profiad o ddod ’nôl ac edrych am bersbectif newydd yn ystod Dolig” meddai Geraint.
“Dwi ddim yn grefyddol ond yn dal dathlu’r ŵyl ac felly cân yw hon i fy atgoffa am y pethau pwysicaf am Nadolig a’r pethau pwysicaf am fywyd, sef teulu.”
Dyma’r fideo ar gyfer y sengl: