Mae un o hoelion wyth canu gwerin Cymru, Linda Griffiths, wedi rhyddhau ei sengl Nadolig newydd ers dydd Iau diwethaf, 1 Rhagfyr.
‘Hen Garolau’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar Recordiau Maldwyn a sy’n gweld Linda’n cyd-weithio gyda Chôr Seiriol.
Go brin fod angen llawer o gyflwyniad Linda Griffiths, sydd wedi hen ennill ei phlwy yng Nghymru fel un o fawrion canu gwerin Cymraeg. Dechreuodd ei gyrfa fel aelod o’r grŵp Plethyn, ac mae ganddi yrfa lewyrchus fel artist a chyfansoddwraig unigol a sawl albwm o dan ei belt.
Fe ryddhaodd Linda ei sengl gyntaf ar Recordiau Maldwyn yn ystod yr haf, a bu ‘Porthmyn Tregaron’ yn drac sain addas iawn ar gyfer Eisteddfod Tregaron.
Nawr mae hi yn ei hôl gyda chân ingol ar gyfer y Nadolig gyda Chôr Seiriol, sef côr o Wynedd â Môn o dan arweiniad Gwennant Pyrs, yn gyfeiliant iasol i’r cyfan.
“…pwysig parhau i ganu”
Er ei bod hi’n gân i ddathlu’r Nadolig, mae ‘Hen Garolau’ hefyd yn cynnwys neges ddofn fel yr eglura’r gantores.
“Mi ‘sgwennais i ‘Hen Garolau’ i’w chanu ar raglen Heno ar S4C yn Rhagfyr 2016”, meddai Linda.
“Mae’n cymharu sefyllfa’r geni ym Methlehem â’r erlid sy’n dal i ddigwydd ar draws y byd heddiw. Ro’n i’n teimlo’n ddig rhywsut ein bod ni’n mwynhau canu’r hen garolau ‘ma bob Nadolig ac yn anwybyddu’r rhai sy’n dioddef”.
“Wedi deud hynny, mae neges y carolau yn bwysicach nag erioed heddiw, sef heddwch a chariad at gyd-ddyn. Mae’n bwysig parhau i ganu a lledaenu’r neges, ond ein bod ni’n rhoi’r neges ar waith trwy gydol y flwyddyn.”
“Mae’r ‘brain’ sy’n hofran uwch y crud yn y pennill cyntaf yn gyfeiriad at rai o offeiriaid hunanbwysig Eglwys y Geni ym Methlehem yn eu gwisgoedd du, y cwrddais â nhw pan fues i yna’n ffilmio efo Plethyn yn Rhagfyr 1994.”
Recordiwyd y sengl newydd yn Stiwdio Sain, gyda’r cynhyrchydd Osian Huw Williams ac fe gyfansoddwyd y trefniant corawl gan Gwennant Pyrs.