Sengl Nadolig Hyll gyda Katie Chroma

Mae’r grŵp o Gaerdydd, Hyll, wedi rhyddhau eu hymgais ar sengl Nadolig ers dydd Gwener diwethaf, 9 Rhagfyr. 

‘Noson ‘Dolig wrth y Bar’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label recordiau JigCal, ac mae’r band wedi deffro o’u trwmgwsg blynyddol er mwyn dymuno Nadolig Llawen i bawb. 

Dywed y band fod ‘Noson ’Dolig Wrth Y Bar’ yn ddathliad o’r Nadolig gyda gwahoddiad i bawb – bechgyn a merched, da neu ddrwg!  

Ar gyfer y sengl benodol yma maen nhw wedi recriwtio eu ffrind, y gantores dalentog Katie Hall o’r grŵp roc CHROMA, i ganu ar y trac. 

“Teimlo ysbryd y Nadolig ychydig bach, nai gymryd dy law di heno ’ma. Mewn blwyddyn gwael, ges i noson dda…” 

Mae’r gân yn nodweddiadol o sain y band erbyn hyn, gyda eu teimlad slacyr a geiriau a llais unigryw y prif ganwr Iwan.  

Mae’r pedwarawd wedi bod yn brysur yn 2022 yn recordio LP yn Stiwdio JigCal, a fydd i’w chlywed yn y Gwanwyn.