Mae Steve Roberts wedi rhyddhau sengl Nadolig newydd ar label Madryn. ‘Nadolig Pwy?’ ydy enw’r trac newydd gan y cerddor profiadol o Fethesda oedd yn aelod o’r band Mŵg yn y 1980au.
Cafodd y gân ei rhyddhau’n wreiddiol ar gyfer Nadolig cynta’r mileniwm. Mae’n hi’n edrych yn ôl ar brofiad plentyn o’r ŵyl, gyda lleisiau disgyblion Ysgol Maelgwn, Llandudno, yn chwarae rhan amlwg yn y perfformiad.
Steve ac Eric Quiney sy’n gyfrifol am yr alaw, a’r prifardd Ieuan Wyn o Fethesda ysgrifennodd y geiriau.