Bydd sengl nesaf y grŵp newydd Ffatri Jam yn cael ei rhyddhau ar 4 Tachwedd.
‘Cyrff’ ydy enw’r cynnyrch diweddaraf gan y grŵp sy’n cynnwys aelodau o Arfon a Fôn.
Er eu bod nhw’n fand newydd, mae aelodau Ffatri Jam i gyd yn wynebau cyfarwydd i’r sin gerddoriaeth Gymraeg ar ôl bod yn aelodau o’r bandiau Calfari, Y Galw a Terfysg.
‘Cyrff’ fydd ail sengl Ffatri Jam gan ddilyn ‘Creithiau’ a ryddhawyd ar 23 Medi.
Mae’r ddau drac yn rhan o gyfres o senglau a fydd yn cael eu rhyddhau gan Ffatri Jam dros y misoedd nesaf gan arwain at ryddhau EP cyntaf y grŵp yn Ebrill 2023.