Mae’r band metal o Fangor, CELAVI, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 16 Rhagfyr. ‘Lullaby’ ydy enw’r trac newydd gan y ddeuawd Gwion a Sarah ac mae allan ar label Meraki.
Yn wahanol i lot o’r senglau sy’n cael eu rhyddhau ar hyn o bryd, nid trac Nadolig ydy ‘Lullaby’ ond yn hytrach anthem gân sydd wedi’i chynhyrchu gan Romesh Dodangoda, sydd wedi gweithio gyda grwpiau amlwg fel Motörhead, Bullet For My Valentine a Nova Twins.
Mae’r grŵp yn ddiweddar wedi’u hychwanegu at restr chwarae golygyddol ‘Best New Bands’ Amazon Music tra hefyd yn derbyn cefnogaeth ddiweddar gan BBC Introducing ar BBC 6 Music, BBC Introducing in Wales a gorsafoedd radio rhyngwladol roc a metal!