Mae Georgia Ruth wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 27 Mai.
‘Half Forgotten Heartbreak’ ydy enw’r trac newydd, a dyma’r ail sengl i’w rhyddhau o’i EP newydd gan ddilyn ‘25 Minutes’ a ryddhawyd fis Ebrill. Bydd yr EP, ‘Kingfisher’, allan ar label Bubblewrap Collective dros yr haf eleni.
Cân ‘canol nos’ yw ‘Half Forgotten Heartbreak’, am y pethau rydych chi methu helpu ond cofio pan ddylech chi fod yn cysgu. Mae’r pump o ganeuon sydd ar yr EP ‘Kingfisher’ yn ymdrin â hiraeth, amser a gollwyd, a phleser rhyfedd tristwch.
Fe’i recordiwyd yn StudiOwz yn Sir Benfro yn Rhagfyr 2021, wedi’i pheiriannu gan Iwan Morgan a gyd-gynhyrchodd gyda Georgia, a gyda phwy y bu’n gweithio ar ei halbwm diwethaf ‘Mai’.