Mae cerddor talentog o Geredigion fu’n aelod o fandiau amlwg yn y gorffennol wedi dychwelyd gyda phrosiect unigol newydd o’r enw heddlu.
Bydd sengl gan y prosiect, ‘Auto-Da-Fé’, allan ddydd Gwener yma, 22 Gorffennaf, ar label Recordiau Zawn.
Daeth Rhodri Daniel i amlygrwydd gyntaf fel aelod o’r grŵp ysgol o Lanbed, Java, a gafodd lwyddiant yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 2004, cyn rhyddhau EP ar label Recordiau Rasal.
Yn ddiweddarach aeth ymlaen i ffurfio’r band poblogaidd Estrons a wnaeth dipyn o farc ar y diwydiant ar ôl cael adolygiadau gwych gan rai fel NME, Vice, DIY a Clash i BBC Radio, Radio X, Ultimate Guitar, The Guardian ac The Independent. Fe wnaethon nhw hyd yn oed ryddhau sengl fel rhan o brosiect Clwb Senglau’r Selar yn 2014!
Ers i’r band chwalu yn 2019, mae Rhodri wedi bod yn dawel yn gerddorol, ac mae rheswm am hynny gan iddo ddod yn ymwybodol o’r ffaith bod ei glywed wedi’i ddifrodi’n ddifrifol.
Roedd blynyddoedd o deithio a chwarae’n fyw wedi cael effaith, a cafodd Rhodri yn y pen draw ddiagnosis o golled clyw, tinitws a sensitifrwydd difrifol i sŵn. Roedd yr effeithiau mor ddifrifol fel nad oedd Rhodri yn gallu bod yn yr un ystafell â phobl eraill, gadael y tŷ na chwarae cerddoriaeth am bron i flwyddyn.
Taith yn ôl at gyfansoddi
Ysbrydolwyd Rhodri i ystyried cerddoriaeth eto ar ôl cyfarfod ar hap â chynhyrchydd recordiau wedi ymddeol, sydd wedi llenwi hen stiwdio anghofiedig ar lethrau Mynyddoedd Cambria’n llawn o syntheseiddwyr hynafol.
Wedi’i gynghori i fynd allan i’r awyr agored i gynorthwyo’r adferiad i’w glyw, cychwynnodd ar daith gerdded dri mis yn ymestyn dros 900 milltir ar hyd arfordir Cymru gyfan, lle cafodd ei ysbrydoli i ysgrifennu’r gerddoriaeth yn ei ben, gyda’r bwriad o recordio a rhyddhau fel prosiect newydd ar ôl dychwelyd. Serendipity yn arwain Rhodri yn ôl at gerddoriaeth.
Mae cerddoriaeth heddlu yn driw i’r enw, gan gynnig grym heddwch i’r cyfansoddwr.
Mae ‘Auto-Da-Fé’ yn golygu ‘deddf ffydd’ yn yr iaith Sbaeneg a hon ydy’r drydedd sengl gan Heddlu. Mae’n ddilyniant i’r sengl ‘Locker’ a ryddhawyd ddiwedd mis Mai.
Mae’r trac wedi’i enwi ar ôl yr achos a wynebodd hereticiaid a gwrthgilwyr yn ystod y chwilotiad Sbaenaidd, cyn cael ei gondemnio. Wedi’i chanu o bersbectif deublyg chwiliwr beirniadol, a’r artist ei hun, mae’r gân yn cyfleu golygfa drist a chythryblus, gan adleisio sut rydyn ni’n rhoi ein hunain ar brawf yn barhaus am y pethau rydyn ni wedi’u gwneud.
Recordio i osgoi anghofio
“Oherwydd yr achiech efo fy nghlustiau, fi ddim yn gallu perfformio cerddoriaeth yn fyw ar y funud” eglurodd Rhodri wrth Y Selar.
“Felly yn lle cyfansoddi y gerddoriaeth mewn ystafell efo pobl arall, fi’n gorfod recordio fe i gyd fy hunan, sydd eitha’ hawdd diwrnodau yma efo technoleg newydd.
“Ond mae o hefyd yn meddwl fi’n gallu cymryd amser a chyfansoddi elfennau ar ben ei gilydd i greu darluniau mwy. Fi wastad wedi cyfansoddi’r prif syniadau tu ôl caneuon yn fy mhen ta beth, rhywsut maen nhw jyst yn dod iddo fi o’r awyr, a wedyn byddai’n trial recordio nhw’n gyflym i osgoi anghofio nhw!
“Ond oherwydd nawr fi ben fy hunan, a ddim yn gallu neu orfod perfformio’n fyw, mewn ffordd ma fe wedi agor drysau newydd i fi drial pethau gwahanol fydden i ddim wedi ystyried yn y gorffennol..!”
Y newyddion pellach am heddlu ydy bod albwm ar y ffordd. Cantref fydd enw’r albwm a bydd allan ar 29 Gorffennaf.
Albwm cysyniadol o fath fydd hwn yn ôl Rhodri, sy’n trafod hynt bachgen a gafodd ei olchi allan i’r môr a chael ei ddal mewn dinas fytholegol o dan y dŵr o’r enw Cantref Gwaelod.