Sengl newydd Kathod

Mae’r prosiect cerddorol cydweithredol, Kathod, yn ôl gyda sengl newydd sydd allan heddiw. 

‘Cofleidio’r Golau’ ydy enw’r trac newydd gan y prosiect a bydd yn cael ei ryddhau ar label Recordiau I KA CHING. 

Y newyddion da pellach ydy bod y sengl yn cynnig blas o’r hyn sydd i ddod ar EP newydd gan Kathod fydd allan yn fuan. 

Mae Kathod yn grŵp unigryw yn yr ystyr bod y lein-yp aelodaeth yn ‘ddi-ddiffiniad’ i ddefnyddio eu disgrifiad eu hunain. Hynny ydy bod yr aelodau’n newid yn gyson wrth weithio ar ganeuon newydd. 

Kathod newydd

Fel rhan o brosiect diweddaraf Kathod, mae 14 o ferched creadigol Cymru wedi dod at ei gilydd i greu EP newydd sbon. 

Fe rhan o ôl-barti Gwobrau’r Selar yn gynharach eleni fe gafwyd cyflwyniad ecsgliwsif i’r criw newydd o gathod oedd wedi ymuno â’r prosiect…

‘Cofleidio’r Golau’ yw’r sengl gyntaf oddi ar yr EP honno – darn o gerddoriaeth sy’n archwilio themâu fel treigl amser a munudau tawel y byd naturiol. 

Ar y trac mae modd clywed alawon jazz yn dawnsio’n ddiymdrech dros dannau telyn gwerinol, tra fod ysbrydoliaeth cryf R&B a phop yn sylfaen i’r gân.  

Yr artistiaid sydd wedi bod wrthi’n creu’r cyfanwaith diweddaraf gan Kathod ydy Malan, Gwen Mairi, Beth Pugh a Manon Dafydd. 

Cawsant eu hysbrydoli gan amryw o gelfyddyd fel llenyddiaeth Tir y Dyneddon, a chelf gweledol gan Manon ei hun.