Sengl Newydd Leri Ann

Mae’r gantores sydd hefyd yn wyneb cyfarwydd ar y sgrin fach yma yng Nghymru, Leri Ann, wedi rhyddhau ei sengl newydd ers dydd Gwener 22 Ebrill. 

‘Ffŵl Ohona i’ ydy enw’r trac diweddaraf gan Leri Ann ac mae’n ddilyniant i’w EP cyntaf a ryddhawyd llynedd

Mae Leri, sy’n dod o Lan Ffestiniog, yn wyneb cyfarwydd ar y teledu ar ôl iddi chwarae rhan un o gymeriadau mwyaf lliwgar Rownd a Rownd – Erin. 

Er hynny, yn ddiweddar, mae hi wedi bod yn datblygu ei thalentau unigryw fel cantores gyda’r cynhyrchydd Mei Gwynedd, ac mae’r sengl newydd hefyd allan ar ei label yntau, JigCal. 

Rhyddhawyd ei EP cyntaf pedwar trac ym mis Medi llynedd, gyda thair cân Saesneg ac un yn y Gymraeg. 

Mae dylanwadau’r gantores yn dod gan girl bands y 60au fel The Ronettes a’r Shirelles hyd at enwau mwy modern fel Duffy, Amy Winhehouse a Lady Gaga. Mae hi’n gantores unigryw ac arbennig, ac mae’r trac newydd yn awgrymu bod gan Leri ddyfodol disglair iawn fel cantores. 

“Dwi wrth fy modd gyda’r sain, a chanu y math yma o ganeuon” meddai Leri. 

“Fedrai ddim disgwyl perfformio y caneuon newydd yn fyw, ac yn edrych ymlaen yn fawr i allu cyfrannu fy rhan tuag at y sin gerddorol gwych sydd yma yng Nghymru ar hyn o bryd”. 

Yn ôl JigCal, bydd rhagor o senglau ganddi’n cael eu rhyddhau dros y misoedd nesaf, gydag addewid o albwm llawn allan erbyn diwedd y flwyddyn.